Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 26 Mawrth 2019.
Ydw, diolch am eich cyfraniad. Mae'r rheoliadau hyn yn cywiro diffygion sy'n deillio o ganlyniad i ymadawiad y DU a'r UE, ac yn sicrhau bod Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn parhau i weithredu'n effeithiol pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd. Rwy'n falch o allu rhoi hyn i broses gadarnhaol, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor, felly rwy'n eich annog i'w cymeradwyo.