7. Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 26 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:46, 26 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cynnig y cynnig.

Mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â rheoleiddio gweithwyr cymdeithasol yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, yr EAA fel y'i gelwir, a'r Swistir, a rheolwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac i waharddiadau sy'n effeithio ar gwmpas y gwasanaethau eiriolaeth, fel bod y Ddeddf yn gweithredu'n effeithiol ar ôl y dyddiad ymadael, os bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Ar hyn o bryd, mae symudiad rhydd gweithwyr penodol ar draws yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir wedi ei hwyluso gan gyfarwyddebau'r UE sy'n cynnwys fframwaith cyfatebol o reolau ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol. Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, ni fydd cyfarwyddebau'r UE bellach yn berthnasol i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru neu'r DU. O ganlyniad, mae'r offeryn hwn yn dileu o Ddeddf 2016 pob cyfeiriad at y trefniadau cyfatebol o ran cydnabod cymwysterau proffesiynol o dan gyfarwyddebau'r UE.

Os ydym yn gadael heb gytundeb, ar ôl y diwrnod ymadael gall unigolion gyda chymwysterau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir geisio cydnabyddiaeth i'w cymwysterau drwy system gofrestru ryngwladol bresennol Gofal Cymdeithasol Cymru, sef y corff sy'n rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel sy'n wir ar hyn o bryd am ymgeiswyr rhyngwladol, caiff cymwysterau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir eu hasesu yn unol â safonau cymwysterau cyfatebol y DU ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol, ac os ceir eu bod yn debyg, bydd gofyn i Gofal Cymdeithasol Cymru gydnabod y cymhwyster, heb unrhyw brofion ychwanegol i sgiliau ymarferol yr ymgeisydd. Bydd modd o hyd i Gofal Cymdeithasol Cymru wirio sgiliau iaith yr ymgeisydd a pha un a oes pryderon ynghylch eu haddasrwydd sydd angen eu cofrestru. 

Mewn achosion lle nad yw'r cymhwyster yn cyfateb, bydd rhyddid i Gofal Cymdeithasol Cymru benderfynu sut y bydd yn bwrw ymlaen â'r broses gydnabod. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth i gynnig mesurau digolledu lle nad yw cymhwyster yn cyfateb i safon cymhwyster y DU, fel yr oedd o'r blaen o dan gyfarwyddeb yr UE. Mae'r offeryn hwn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf 2016 mewn cysylltiad â gwaharddiadau sy'n effeithio ar gwmpas gwasanaethau eiriolaeth rheoledig.