Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch, Lywydd. Nôl ar 7 Tachwedd y flwyddyn ddiwethaf, Weinidog, pan glywon ni y newyddion bod Arolygiaeth Gynllunio Lloegr a Chymru yn bwriadu cael gwared â rôl cyfarwyddwr gweithredol Cymru, fe gytunoch chi â fi ei bod hi'n hen bryd i ni gael arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru. Rwy'n credu mai 'nawr yw'r amser' yw'r hyn ddywedoch chi fan hyn yn y Siambr. Ers hynny, allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau rŷch chi wedi eu cymryd i wireddu bwriad Llywodraeth Cymru i greu arolygiaeth annibynnol i Gymru?