Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:46, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fis Gorffennaf diwethaf, deuthum â mater lladd heb stynio i sylw'r Gweinidog ac yn arbennig, sylwadau a wnaed iddi gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain, a dywedodd ei bod wedi cael trafodaeth â hwy ychydig wythnosau'n ôl a'i bod wedi gofyn i swyddogion edrych ar y wybodaeth yr oeddent wedi'i chyflwyno yn fanwl. Mae naw mis ers y cyfarfodydd hynny. Tybed a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, ac a yw hi wedi dod i unrhyw gasgliadau.