Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:41, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, rydych wedi cyflwyno'r cynigion ar gyfer rheoliadau newydd i leihau llygredd dŵr. Yn amlwg, mae pawb ohonom am weld amgylchedd gwell ac amgylchedd glanach. Mewn gwirionedd mae'r rheoliadau newydd hyn yn gopi union o'r rheoliadau parthau perygl nitradau, a chânt eu cymhwyso ar draws Cymru gyfan os cânt eu gweithredu. Pa asesiad a wnaethoch o'r effeithiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol drwy unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol y gallech fod wedi'i gyflawni hyd yma?