Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 27 Mawrth 2019.
Ond mae'n peri pryder na wnaed unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol cyn i chi gyflwyno'r cynigion hyn, oherwydd does bosib na ddylid gwneud hynny i asesu, fel y dywedais wrthych yn gynharach, yr effeithiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol a allai fod i'r cynigion hyn. Ac mae'n frawychus iawn na chynhaliwyd unrhyw asesiad effaith, gan y gallai hyn gau llawer o fusnesau gwledig sy'n hyfyw ar hyn o bryd ac sy'n creu cyfleoedd cyflogaeth ac yn cynhyrchu bwyd o safon uchel. Felly, mae'n siomedig iawn. Sut y gallwch amddiffyn y safbwynt hwnnw, Weinidog—na wnaethpwyd yr asesiad effaith rheoleiddiol cyn ichi wneud y cyhoeddiad?