Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch. Rwy'n ymwybodol eich bod yn hyrwyddwr rhywogaeth y gylfinir a'r gwaith a wnewch. Efallai fod Mark Isherwood yn ymwybodol o brosiect dyffryn Camlad ym Mhowys a ariannwyd drwy ein cynllun rheoli cynaliadwy, sy'n waith cydweithredol o dan arweiniad ffermwyr sy'n ymgymryd â'r gwaith o adfer cynefinoedd glaswelltir gwlyb traddodiadol yr iseldir. Ac mae hynny'n darparu ecosystem iach a gwydn i helpu adar sy'n nythu ar y ddaear, ac mae'r gylfinir yn rhywogaeth ddangosol ar gyfer pennu llwyddiant y prosiect hwnnw. Mae gennym grantiau hefyd ar gyfer galluogi adnoddau naturiol a llesiant yng Nghymru, ac mae dau o'r ceisiadau a gawsom yn ymwneud yn benodol â gweithgarwch cadwraeth mewn perthynas â'r gylfinir. Yn anffodus, nid oeddent yn cyrraedd y trothwy isaf ar gyfer cyllid ar hyn o bryd, ond rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda'r ymgeiswyr i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i'w cynorthwyo, gan fy mod yn cydnabod bod angen inni wneud gwaith gweithredol iawn yn y maes hwn.