Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:27, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi cynnal ymgynghoriad, fel y dywedodd yr Aelod yn gwbl gywir. Rydym wedi cael nifer fawr o ymatebion. Rydym yn ystyried yr ymatebion hynny'n ofalus. Mae'n ymgynghoriad cyffredinol. Ar ôl inni ddadansoddi'r ymatebion yn drwyadl, bydd modd imi ddweud wrth yr Aelod a'r Aelodau yn gyffredinol sut y byddwn yn symud ymlaen ar hyn, ond rwyf wedi cyfarfod â'r prif swyddogion tân a'u cadeiryddion yn ddiweddar iawn, ac wedi pwysleisio'r ffaith ei fod yn ymgynghoriad llawn a dilys. Mae gennyf gryn diddordeb mewn gweld y dadansoddiad o'r ymatebion y maent wedi'u darparu, ac yng ngoleuni'r ymatebion hynny, bydd modd imi ateb yr Aelod ynglŷn â sut rydym yn symud y gwasanaeth hwn yn ei flaen.