Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:31, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ôl StatsCymru, mae awdurdodau lleol wedi rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiadau tai a ddylai fod wedi arwain at ddarparu 13,355 o dai fforddiadwy, ond mewn gwirionedd, 6,746 yn unig sydd wedi'u hadeiladu, sef ychydig dros 50 y cant o'r hyn y dylem fod wedi'i gael. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae'r ffigur hyd yn oed yn waeth: yn Wrecsam, er enghraifft, 16 y cant yn unig o'r cartrefi fforddiadwy a addawyd mewn datblygiadau a gafodd eu darparu. Mewn rhai achosion, ymddengys mai'r hyn sydd wedi digwydd yw bod—[Anghlywadwy.]—caniatâd cynllunio, wedi negodi eu gofynion tai fforddiadwy i lawr fel y gall y datblygiad fod yn fwy proffidiol yn y pen draw, ac wrth wneud hyn, maent yn bygwth yr awdurdod lleol drwy ddweud y byddant yn mynd at yr Arolygiaeth Gynllunio, nad yw, fel y gŵyr pob un ohonom, wedi'i lleoli yng Nghymru, os na chânt eu ffordd eu hunain. O gofio ein bod wedi colli bron i 7,000 o gartrefi fforddiadwy y dylem fod wedi'u cael oherwydd hyn, a ydych yn hyderus fod y system gynllunio bresennol yn gallu eich helpu i gyflawni eich amcanion mewn perthynas â thai?