Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:37, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Nid yw'n glir i mi a oes gwahaniaeth rhwng yr awdurdodau lleol sydd wedi trosglwyddo eu stoc dai a'r rheini sydd wedi'i chadw'n fewnol. Ond fe ddychwelaf at hynny maes o law.

Un o lwyddiannau'r sefydliad hwn—a chlod i'r Dirprwy Lywydd yma—yw Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i eiddo preswyl newydd beidio â bod, yn y bôn, yn lleoedd sy'n creu perygl i fywyd. Nawr, roedd hwnnw'n Fesur a wrthwynebwyd gan ddatblygwyr tai mawr, gan eu bod yn ofni y byddai'n cynyddu'r gost. Ac roedd cyn-gyfarwyddwr Redrow Homes, Steve Morgan, yn feirniadol iawn o hwnnw, a rheoliadau tai eraill, gan ddweud y byddai'n gwneud datblygwyr yn llai awyddus i adeiladu yng Nghymru. Wrth gwrs, dangosodd Grenfell pwy sydd ar yr ochr iawn i'r ddadl honno. Nid oes amheuaeth gennyf fod yn rhaid inni newid o dai o ansawdd gwael fel yr arferent fod i gartrefi newydd gyda'r safonau adeiladu a'r safonau amgylcheddol uchaf. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd inni heddiw y byddwch yn cynnal adolygiad Llywodraeth gyfan o'r ddeddfwriaeth gynllunio a rheoliadau cynllunio i sicrhau bod gennym sector tai sydd ymhlith y gorau yn y byd o ran safonau adeiladu a safonau amgylcheddol, ac un lle mae'r datblygwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau i'r gymuned, yn wahanol i'r system sydd gennym ar hyn o bryd?