Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn ar y mater hwn. Fel y gŵyr, mae'r achos yn codi materion cymhleth ynglŷn â sut y mae'r asesiad o'r effaith amgylcheddol yn berthnasol i geisiadau i ddiwygio amodau cynllunio, ac mae'n cymryd peth amser i weithio drwy'r materion hynny. Caiff manylion unrhyw gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chyngor cyfreithiol, gan gynnwys a roddir neu a ofynnir am gyngor cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw fater, eu diogelu gan fraint broffesiynol gyfreithiol.