Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 27 Mawrth 2019.
Wrth inni newid i fod yn gymdeithas ddigidol—yn gymdeithas gwbl ddigidol—rwy'n pryderu ynglŷn â'r ardaloedd o Gymru, wrth gwrs, lle nad oes gennym seilwaith digidol digonol i bobl ei ddefnyddio. Ond yn ychwanegol at hynny, ceir mater llythrennedd digidol, sy'n arbennig o gyffredin mewn ardaloedd lle ceir poblogaethau cymharol uwch o bobl hŷn. Felly, credaf fod tair blynedd, bron, wedi bod ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynllun cynhwysiant digidol. Tybed a allech amlinellu'r hyn rydych yn ei wneud i gynorthwyo pobl i fanteisio ar dechnoleg newydd.