Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma yn ffurfiol.
Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran llawer o fy nghyd-gyfranwyr yn y ddadl heddiw pan ddywedaf mai teimlad cymysg sydd gennym wrth gyflwyno'r cynnig hwn, yn enwedig yn dilyn buddugoliaeth eithriadol Cymru yn ennill y Gamp Lawn tua 10 diwrnod yn ôl. Credaf fod y dathliadau bron iawn wedi dod i ben ledled y wlad, yn dilyn buddugoliaeth wych yn erbyn Iwerddon, canlyniad a orffennodd bencampwriaeth ragorol i Warren Gatland, ei staff ategol, ac wrth gwrs i'r bechgyn mewn coch.
Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, ynghyd â ffermio, rygbi yw un o fy hoff bethau—cariad at y gêm a rennir gan filoedd ar filoedd ledled Cymru. Gyda'r cefnogwyr hynny mewn cof mewn gwirionedd—gwir enaid ac asgwrn cefn y gêm yng Nghymru—y dadleuwn heddiw ynglŷn â dyfodol y strwythur proffesiynol, a goblygiadau hyn, wrth gwrs, i'r gêm ar lawr gwlad, o feysydd chwarae Clwb Rygbi y Bont-faen i Rygbi Gogledd Cymru yn y gogledd, ac yn wir ein tîm rygbi ein hunain yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yr wyf bob amser yn awyddus iawn i barhau i'w hyrwyddo ac sy'n mynd o nerth i nerth.
Cyn edrych ar rai o'r manylion, yn bennaf oll byddai'n iawn inni gydnabod y datganiad a'r eglurhad bythefnos yn ôl gan y bwrdd rygbi proffesiynol na fydd unrhyw uno'n digwydd i ranbarthau rygbi Cymru y tymor nesaf. Yn gwbl briodol, cafwyd ymddiheuriad hefyd gan Undeb Rygbi Cymru i'r tîm a'r cefnogwyr am yr aflonyddwch a barodd 'Project Reset' yn ystod y chwe gwlad, aflonyddwch a greodd risg ar un pwynt o dynnu sylw'r tîm oddi ar y gwaith a oedd ganddo i'w wneud, a gallai fod wedi rhoi'r Gamp Lawn yn y fantol. Diolch byth, llwyddodd eu proffesiynoldeb ac ansawdd y chwaraewyr rygbi ac unigolion i ddisgleirio tra oedd y newidiadau i'r strwythurau rhanbarthol ar y gorwel. Mae'n gwneud i rywun amau mai wedi'i roi o'r neilltu am y tro y mae hyn, yn hytrach na'i wrthod yn gyfan gwbl.
Wrth gwrs, mae trefniadau llywodraethu'r gêm yng Nghymru yn llwyr yn nwylo Undeb Rygbi Cymru a'i bartneriaid rhanbarthol, ac mae hynny'n gwbl iawn a phriodol. Ond mae'r cefnogwyr wedi cael eu hysgwyd gan y datblygiadau diweddar—yr ail dro mewn dau ddegawd y gallai'r gêm broffesiynol yng Nghymru fod wedi bod yn destun ailwampio dramatig. O lawr gwlad i fyny i'r lefel ryngwladol, gwelwyd pryder eang a dwys ynghylch yr argymhellion a gyflwynwyd gan 'Project Reset'. Mae'r canlyniadau wedi bod yn ffrwydrol. Rydym wedi cael ymddiswyddiadau o fyrddau clybiau rhanbarthol, ac er bod cadoediad posibl ar waith ar gyfer 2019-20, mae'r cefnogwyr yn paratoi ar gyfer beth sy'n dod nesaf. Mae'r bwrdd rygbi proffesiynol yng Nghymru, sy'n goruchwylio'r strwythur rhanbarthol proffesiynol yn parhau i fod, a dyfynnaf, yn unedig yn ei awydd i wneud yr hyn sydd orau, ac mae wedi cadarnhau na chaiff ei rwystro rhag mynd ar drywydd ateb i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gêm broffesiynol yng Nghymru.
Am nawr, ymddengys bod y model pedwar rhanbarth ar waith. Ond gyda'r awydd i ehangu'r gêm broffesiynol i'r gogledd, mae'r bygythiad i un o'r rhanbarthau sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r gystadleuaeth Pro14 yn aros. O'm safbwynt personol i, fel cefnogwr ac fel Aelod Cynulliad, nid oes gennyf wrthwynebiad i'r potensial o gael tîm gogledd Cymru. Yn wir, credaf y dylid annog camau i hyrwyddo ein gêm genedlaethol i bob cwr o'r wlad. Fodd bynnag, dylid ymdrin yn ofalus ac yn sensitif ag ailstrwythuro posibl, gan werthfawrogi'n gyffredinol beth yw'r goblygiadau posibl.
Oherwydd mae llawer mwy yn y fantol na 15 o chwaraewyr yn dod allan ar ddydd Sadwrn dros eu priod ranbarth yn Stadiwm Liberty, Parc y Scarlets, Parc yr Arfau, Rodney Parade, neu Fae Colwyn yn wir. Mae rygbi yn hanfodol bwysig i gynifer o bobl yng Nghymru, ac nid yw'r manteision y mae'n eu creu yn gyfyngedig i 80 munud ar y maes chwarae. Mae'r gêm yn darparu nifer o fanteision economaidd na ellir eu gorbwysleisio, yn enwedig mewn gwlad lle mae ffyniant economaidd a datblygiad parhaus wedi bod yn anodd ei gyflawni ar adegau. Ac ar y pwynt penodol hwn hoffwn glywed mwy gan y Gweinidog y prynhawn yma ynglŷn â beth a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r manteision y mae'r gêm, a'r gêm ranbarthol, wedi eu creu i'r economi genedlaethol, a pha waith modelu, os o gwbl, a wnaed i edrych ar ei gwir gyrhaeddiad.
Rwy'n chwilfrydig hefyd i wybod sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu cefnogi'r gêm wrth symud ymlaen, a sut y mae hyn yn cymryd ei le yn y strategaeth economaidd, gan ddefnyddio ein llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol o bosibl hyd yn oed i hyrwyddo ein gwlad dramor, a pha le sydd i'r potensial hwnnw yn adran cysylltiadau rhyngwladol newydd y Llywodraeth.
Yn ddi-os, mae lle arbennig i'r gêm yng ngwead cymunedau ledled ein gwlad, a bydd goblygiadau posibl 'Project Reset' yn cael effaith ganlyniadol fawr ar y gwasanaethau helaeth ac amrywiol y mae'r rhanbarthau yn eu darparu mewn cymunedau ac ar lawr gwlad o gwmpas Cymru. Yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n ôl yn unig, dangosodd Dai Rees a Mike Hedges ac eraill yn huawdl gyrhaeddiad a chyflawniad gwasanaethau cymunedol gan y Gweilch yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau. Ac yn amlwg, gwae i ni ddiystyru hyn. Hoffwn glywed gan y Gweinidog ar yr effaith bosibl hon, yn enwedig gan fod gwead cymdeithasol Cymru yn aml yn cael ei gysylltu â lles a chryfder y gêm genedlaethol. Mae'r rhanbarthau hyn wedi'u hadeiladu ar hanes hir o rygbi clwb llwyddiannus yn eu cymunedau ac ar un o'r rhain, mae effaith fawr chwarae ychydig o gemau yn ne-orllewin Cymru a cholli'r gemau hynny yn fwy o lawer.
Mae'r strwythur ariannol a'r heriau sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd yno i bawb eu gweld—yn anffodus, wedi'u hadlewyrchu'n rhy eglur ym methiant rhanbarthau Cymru i fynd drwy rowndiau bwrw allan y brif gystadleuaeth Ewropeaidd, Cwpan y Pencampwyr y tymor hwn. Ar hyn o bryd, nid oes gennym adnoddau i gystadlu gyda rhai o'n cymheiriaid yn Lloegr a Ffrainc. Rhaid inni fod yn glyfar, yn heini ac yn greadigol gyda'r hyn sydd gennym i chwarae ag ef.
Rydym yn gwneud hynny'n dda iawn ar y llwyfan rhyngwladol. Gallai rhai ddweud ein bod yn chwarae'n well nag y mae disgwyl inni ei wneud. Ond rydym yn gwybod bellach beth sydd angen inni ei wneud i drosi hynny'n llwyddiant ar sail ranbarthol. Mae sicrhau llwyddiant ac elfennau paratoadol eraill ar lefel ranbarthol yn hanfodol i iechyd hirdymor y gêm yng Nghymru, ond rhaid i'r awdurdodau dderbyn a chydnabod hefyd fod yn rhaid i hyn fod, ac yn llawer mwy emosiynol yn wir, yn llawer anos na threfnu'r cadeiriau haul ar y Titanic neu bwyso botwm ac anfon datganiad i'r wasg cyflym allan.
Er mwyn i unrhyw newidiadau aruthrol eraill gael eu derbyn yng nghylchoedd rygbi Cymru, bydd angen i Undeb Rygbi Cymru, y rhanbarthau, clybiau a phartneriaid cysylltiedig sicrhau eu bod yn cario'r cefnogwyr gyda hwy. Mae cryfder y gêm yng Nghymru wedi'i adeiladu ar waith caled gwirfoddolwyr mewn clybiau amatur ledled y wlad—o chwaraewyr i dirmyn i staff bar. Dyna'r sylfaen ar lawr gwlad; dyna'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y genhedlaeth nesaf o Alun Wyn Jonesiaid neu Dan Biggars sy'n dod drwy'r rengoedd. Ni allwn fforddio gelyniaethu'r unigolion hynny drwy gyflwyno trefniadau trwsgl eraill i ad-drefnu'r gêm yng Nghymru. I mi, dyna lle gall Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad chwarae rhan yn wir.
Rwyf bob amser ychydig yn betrusgar i weld gwleidyddion yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ond rwy'n meddwl o ddifrif na allwn orbwysleisio pwysigrwydd rygbi yma yng Nghymru i'n heconomi, i'n cymunedau ac i'n pobl. Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan weithgar yn cefnogi'r gêm gymunedol ac mae'n hollbwysig fod yna neges gref a chydlynol ganddynt wrth symud ymlaen, i weld beth y gallant ei wneud i helpu'r gêm broffesiynol i ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod. A dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid clybiau rhanbarthol i ddiogelu rygbi yng Nghymru a datblygu model cynaliadwy hirdymor ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.
Tra'n parchu rôl y corff llywodraethu i fod yn warcheidwad y gêm wych, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn deall ei rôl ei hun yn amddiffyn ein camp genedlaethol a dyma broc bach hynod o ofalus i'w hatgoffa bod goblygiadau cenedlaethol i'w gweithredoedd. Nid yw'n ddigon da i neb ohonom godi ein hysgwyddau a gwylio o'r cyrion. Mae cymunedau a phobl ar draws y wlad yn dibynnu arnom, ac yn wir, mae'r gêm rygbi, ac ymgysylltiad â'r cymunedau hynny'n mynd i fod yn hollbwysig. Ni allwn fod yn naïf a rhoi ein pennau yn y tywod. Mae newid yn dod, ond mae angen inni sicrhau bod y newid hwn wedi'i gynllunio'n dda a'i gyfathrebu'n briodol i'r miloedd o gefnogwyr rygbi ar draws y wlad.
Ar y llwyfan rhyngwladol, rydym yn mynd o nerth i nerth, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno'n dda i'r tîm yng Nghwpan Rygbi'r Byd, ond mae iechyd hirdymor a dyfodol y gêm yng Nghymru yn bendant yn y fantol. Rydym ar groesffordd arwyddocaol i rygbi Cymru a bydd y camau gweithredu nesaf yn gosod cyfres o ddigwyddiadau ar waith a fydd yn pennu llwyddiant y gêm ar bob lefel, o'r lefel ryngwladol i lawr i'w seiliau ar lawr gwlad. Yn sicr, bydd angen gwneud penderfyniadau anodd, ond mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu o'r ffordd yr ymdriniwyd â Project Reset yn ddiweddar.
Rhaid i argymhellion a newidiadau yn y dyfodol gael eu cyfathrebu'n briodol a chaniatáu ar gyfer ymgysylltu priodol gyda chlybiau a chefnogwyr. Er mor amhoblogaidd y gallent fod gyda rhai, a gadewch inni fod yn onest, mewn bywyd, ni allwch blesio pawb drwy'r amser, os cânt eu cyfathrebu'n briodol, efallai y gallwn sicrhau ein bod yn negyddu unrhyw niwed hirdymor dinistriol i wead ein cymunedau. Heb y cefnogwyr, nid yw'r gêm yn ddim. Fel Aelodau Cynulliad, rhaid inni fod yn llais iddynt pan fo hynny'n briodol. Fel cymuned rygbi yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod y cefnogwyr yn dod ar y daith hon, fel arall mae perygl y caiff calon y gêm ei rhwygo allan am byth.