Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hon wedi bod yn ddadl sydd yn gwneud lles i'r Cynulliad, oherwydd mae hi'n dangos ein bod ni'n gallu trafod cynnig sydd wedi cael ei arwyddo gan bob plaid, a hefyd mi fydd yna bleidlais rydd, ac eithrio y bydd aelodau'r Llywodraeth yn ymatal—nid oherwydd ein bod ni'n anghytuno o angenrheidrwydd â dim byd yn y cynnig fel y mae o wedi cael ei gyflwyno, ond nad ydyn ni ddim yn teimlo ei bod hi'n briodol i alw ar y Llywodraeth i gydweithredu ag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â datblygu clybiau a phartneriaethau rhanbarthol heb ein bod ni'n glir iawn yn deall beth y mae'r cynnig yna yn ei olygu. Oherwydd, fel y gwnes i geisio esbonio yn gwbl glir bythefnos yn ôl, pan oeddwn i'n ceisio ateb y cwestiynau am y tro cyntaf gan Andrew R.T. Davies, gan Dai Lloyd, Mike Hedges—a dwi'n diolch hefyd i Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad heddiw a chyfraniad pob un ohonoch chi i'r ddadl—dwi ddim yn credu bod modd i Lywodraeth ddweud wrth gorff annibynnol ei gyfansoddiad, gwirfoddol ei natur a diwylliannol allweddol ei safiad, sut y dylai'r corff yna ymddwyn.
Dwi am wneud cymhariaeth efallai annisgwyl i rai ohonoch chi. Dwi'n cofio bod ar yr ochr arall i'r drafodaeth ynglŷn â'r berthynas rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, flynyddoedd yn ôl. Er fy mod i'n gweld ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth yn gallu buddsoddi mewn datblygiadau, yn enwedig datblygiadau seilwaith i gefnogi diwylliant, dwi ddim yn credu mai rôl Llywodraeth ydy buddsoddi'n uniongyrchol neu geisio cydweithredu yn uniongyrchol gyda thîm rygbi cenedlaethol, tîm rygbi lleol, neu, yn wir, gyda gwyliau diwylliannol fel sydd gyda ni ar draws Cymru.
Mae yna bwyslais cryf wedi cael ei wneud bod rygbi yn gêm genedlaethol yng Nghymru, ond mae'r newidiadau dŷn ni wedi eu gweld yn y gêm yn tyfu allan o'i thwf hi fel gêm fyd-eang, a rhan bwysig o hynny oedd, yn fy marn i, fod saith bob ochr wedi dod yn rhan o'r Gemau Olympaidd, gan greu diddordeb traddodiadol mewn gwledydd sydd ddim wedi chwarae'r gêm yn y gorffennol, ac mae'r ffaith ein bod ni'n cyrraedd y sefyllfa lle mae yna 20 o wledydd yn cystadlu yng nghwpan y byd yn dangos fel y mae rygbi rhyngwladol wedi tyfu. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn her i gymdeithasau sydd wedi arfer dilyn rygbi a chynnal rygbi yn draddodiadol, ond hefyd i weinyddiaeth broffesiynol rygbi ac i'r penderfyniadau y mae'n rhaid eu gwneud yn dilyn y newidiadau yma.
Mae llwyddiannau Cymru ym mhencampwriaeth y pum gwlad, ym mhencampwriaeth y chwe gwlad o'r 2000au ymlaen, ennill pum pencampwriaeth, pedair gamp lawn a'r cwpan rygbi saith bob ochr, mae'r enillion yma i gyd, a'n gallu ni i ddenu hyfforddwyr deallus o safon fyd-eang, fel Warren Gatland, wrth reswm—mae hyn i gyd yn dangos llwyddiant y gêm, fel y mae datblygiad tîm y menywod a'r llwyddiant a gawson nhw ym mhencampwriaeth y chwe gwlad gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Iwerddon.
Mae hyn i gyd yn dangos y modd y mae rygbi'n ganolog i'n diwylliant ni. Ond nid dyna ydy'r ddadl. Fe wnaethon ni ddangos ein safiad fel Cynulliad ac fel Senedd ac fel Llywodraeth yn glir iawn yn yr adeilad yma yr wythnos diwethaf, lle dŷn ni yn gallu dathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol. Mae ein cefnogaeth ni a'n cymorth ni i rygbi yn hydreiddio drwy'r holl ddarpariaeth. Dŷn ni yn gefnogol i ddatblygu bob math o rygbi ar lefelau lleol. Er enghraifft, roeddwn i, yr wythnos diwethaf, yn y gystadleuaeth arbennig sy'n cael ei threfnu gan Undeb Rygbi Cymru gydag ysgolion â disgyblion gydag anableddau dysgu. Roedd yna 300 o bobl ifanc o dan arweiniad a threfn Chwaraeon Caerffili yn cymryd rhan yn yr ŵyl rygbi honno. Fe ges i gyfle hefyd i fod yn lansiad yn ddiweddar—o fewn yr wythnos diwethaf hefyd—y gystadleuaeth rygbi saith bob ochr lle mae'r undeb rygbi yn cydweithio â'r Urdd.
Mae'r cyllid dŷn ni'n ei roi drwy Chwaraeon Cymru, mewn partneriaeth â nhw, o dros £850,000 bob blwyddyn i Undeb Rygbi Cymru yn arwydd o'r gefnogaeth dŷn ni yn ei rhoi. Ac mae hyn yn cael ymateb. Roeddwn i'n falch iawn o weld y disgrifiad clir a gawson ni gan Rhun ap Iorwerth o rygbi fel gêm genedlaethol, a gêm sydd yn cael ei chwarae ar bob lefel yn gymunedol. Mae'r ffigurau yn dangos hynny. Mae 41 y cant, yn ôl arolwg chwaraeon ysgol Chwaraeon Cymru, wedi chwarae rygbi o leiaf unwaith mewn unrhyw leoliad yn ystod y flwyddyn diwethaf. Mae hyn yn gynnydd o 8 y cant dros y tair blynedd ers yr arolwg diwethaf. Mae cynllun Hub clybiau rygbi ysgol Undeb Rygbi Cymru yn tyfu—89 o ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun a channoedd, felly, o fechgyn a merched yn chwarae yn rheolaidd. Felly, yn y cyd-destun yna dŷn ni yn gweld ymgais gan Undeb Rygbi Cymru i ailosod y rhanbarthau.
Rŵan, dwi ddim am wneud unrhyw sylw ynglŷn â'r digwyddiadau yna. Mae unrhyw sylw dwi wedi'i wneud wedi cael ei wneud yn breifat, a dwi ddim yn bwriadu eu gwneud nhw fel Gweinidog yn fwy nag y gwnes i nhw bythefnos yn ôl. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd diddordeb proffesiynol, fel y dylen ni ei wneud fel Llywodraeth, drwy ein swyddogion, drwy ein trafodaethau anffurfiol, yn beth mae'r undeb rygbi wedi bod yn ceisio ei wneud. Ond dydyn ni ddim am ddod i sefyllfa lle dŷn ni'n dweud wrth yr undeb rygbi—yn fwy na fuasen ni'n dweud wrth unrhyw gorff arall—sut mae trefnu eu gweithgareddau nhw. Felly, dwi'n gobeithio bod y sylwadau yna yn dangos yn glir fod gyda ni ddealltwriaeth o rôl Llywodraeth mewn perthynas â datblygiad rygbi, ond nad ydy hyn ddim yn golygu ein bod ni'n ceisio dweud wrth unrhyw un o'n cyrff chwaraeon ni, yn fwy nag wrth ein cyrff diwylliannol ni, ein bod ni'n ceisio ymyrryd yn y ffordd maen nhw'n cael eu rhedeg.
Un apêl gaf i ei wneud wrth gloi: dwi'n meddwl ei bod yn bwysig bod y drafodaeth ynglŷn â dyfodol timau rygbi Cymru a'r drefn ranbarthol yn digwydd mewn ysbryd tebyg i'r drafodaeth sydd wedi bod yma heddiw. Dwi ddim eisiau gweld, a dwi'n meddwl bod Rhun ac Andrew R.T. wedi pwysleisio hyn, a Mike Hedges, yn eu gwahanol gyfraniadau—. Dŷn ni ddim eisiau gweld atgyfodiad plwyfoldeb a negyddiaeth ranbarthol neu negyddiaeth ardal yn erbyn ardal yn y drafodaeth yma. Beth dŷn ni eisiau ei weld ydy dangos bod yr un math o ysbryd a oedd mor amlwg yng Nghaerdydd yn ein llwyddiant ni ar ddiwedd y chwe gwlad eleni yn dod â'r ysbryd yna hefyd, yn goleuo agwedd pobl ar hyd pob lefel o rygbi yng Nghymru.