7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Rygbi

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 27 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:09, 27 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o grynhoi gydag ychydig o sylwadau yma ar y ddadl rydym newydd ei chlywed ac yn gyntaf oll i groesawu'r ffaith bod y ddadl hon wedi ei galw a'n bod wedi cael cymaint o gyfraniadau. Rwyf fi, fel llawer o Aelodau'r Cynulliad, wedi bod mewn llawer o drafodaethau ar y llinell ystlys gyda mamau a thadau, chwaraewyr, hyfforddwyr ac eraill dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf am ddyfodol rygbi rhanbarthol, a chredaf ei fod yn gyfle da, rhaid imi ddweud, i rai o'r safbwyntiau hynny gael eu gwyntyllu yn awr yn y Senedd. A dyna a glywsom yma heddiw. Ar un pwynt, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn credu ei bod yn mynd i fod yn ddadl a gâi ei harwain gan y Gweilch yn llwyr, ond diolch byth cawsom ymyriadau o ogledd Cymru wedyn ac ardaloedd eraill hefyd, neu fel arall byddai wedi bod yn blwyfol yn wir, fel y dywedodd y Gweinidog.

Ond diolch i Andrew R.T. Davies am agor y ddadl. Defnyddiodd y geiriau ynglŷn â chael ateb clyfar, heini a chreadigol ar gyfer rygbi rhanbarthol. Mae hynny'n adlewyrchu rhai o'r trafodaethau a gefais heddiw gyda rhai clybiau da iawn ar lawr gwlad sydd wedi dod drwy gyfnod anodd ond wedi sicrhau sylfaen dda iddynt eu hunain: strwythur da iawn ar lefel genedlaethol gydag Undeb Rygbi Cymru, ond ansefydlogrwydd go iawn a phroblemau'n ymwneud â chynaliadwyedd ar y lefel ranbarthol. Credaf fod sylwadau'r Gweinidog i gloi am beidio â bod yn blwyfol yn hyn yn rhai y bydd angen inni wrando arnynt, sef: a allwn edrych ar beth sy'n dda ar gyfer y gêm er mwyn cefnogi'r sylfaen ranbarthol yng Nghymru, ar draws Cymru? Ond hefyd, fel y nododd llawer o'r Aelodau'n gywir, mae'r sylfaen ranbarthol honno, o'i chael yn iawn, hefyd yn hynod o effeithiol o fewn gwaith cymunedol allanol, cymorth i glybiau o fewn y rhanbarth hwnnw ac ati. Felly, mae angen inni gael hyn yn iawn.

Credaf fod y rhan fwyaf o'r Aelodau wedi dweud yn eu sylwadau eu bod yn falch o weld bod 'Project Reset' wedi'i roi o'r neilltu am y tro. Mae hyn yn rhoi cyfle inni—mae hyn yn rhoi cyfle i Undeb Rygbi Cymru, chwaraewyr proffesiynol, cymdeithasau, y chwaraewyr eu hunain, ond hefyd y cefnogwyr, rwy'n credu—gymryd rhan yn awr yn y gwaith o edrych ar beth allai'r strwythur fod yn y dyfodol. Yn y pen draw, mae'r rhain yn benderfyniadau masnachol a busnes, wrth gwrs, ar lefel ranbarthol, ond fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei sylwadau agoriadol, mae pwysigrwydd hyn, sydd wedi'i wyntyllu'n gyson yma, yn ymwneud â chario'r cefnogwyr gyda hwy. Wrth gwrs mae hynny'n cynnwys fy rhanbarth fy hun, gyda'r Gweilch, ond y rhanbarthau i gyd, ac wrth gwrs mae'n cynnwys y rhanbarthau lle mae potensial mawr hefyd, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Credaf fod hwn yn gyfle yn awr i gymryd saib dros dro ac edrych yn fanwl iawn ar beth sydd er budd gorau pawb yng Nghymru o ran rygbi rhanbarthol, ac mae cario'r cefnogwyr gyda chi yn hollbwysig. A chredaf mai dyna'r peth sydd wedi achosi rhywfaint o ofid i gefnogwyr, boed yn ddeiliaid dyledeb oes ym Môn-y-maen neu Fethesda neu, fel minnau, yn llywydd Clwb Rygbi Maesteg, ac ati—mae pob un ohonom yn pryderu ynglŷn â chyflymder, a natur anhrefnus mewn rhai ffyrdd, y cyhoeddiadau ddydd ar ôl dydd ynghylch 'Project Reset'. O leiaf nawr gall pethau fod yn dawel a symud ymlaen yn weddol ystyrlon.

Soniodd Dai Lloyd—deiliad tocyn tymor y Gweilch unwaith eto, ac un o selogion clwb Dynfant hefyd—yn helaeth am y rôl, fod y clwb yn gweithredu'n debyg iawn i glwb ieuenctid i bob pwrpas, fel cynifer o'n clybiau rygbi ar lawr gwlad. Soniodd am y ffaith, o ran cynlluniau i uno'r Scarlets a'r Gweilch—yn ei eiriau ef, nid oedd troi cefn ar eich rhanbarth gorau byth yn syniad clyfar. Trodd Mike at y llwyddiannau sydd yno ar hyn o bryd, ac mae gennym lawer—fel y mae eraill wedi dweud, mae ein rygbi menywod yn mynd o nerth i nerth, ac mae angen inni wneud yn siŵr nad ar lefel genedlaethol a rhanbarthol yn unig y mae hynny'n digwydd, ond hefyd ar lefel clwb—a llwyddiant rygbi iau hefyd, o ran y nifer sy'n cymryd rhan, ond o ran llwyddiant ar y cae yn ogystal. Ond fe nododd yr her sy'n ei hwynebu—y niferoedd isel sy'n gwylio rygbi rhanbarthol, yn enwedig yng Nghymru, o'i gymharu â beth sy'n digwydd yn Ffrainc a Lloegr ac Iwerddon a mannau eraill. Mae rhywbeth yn mynd o'i le o ran parodrwydd y gynulleidfa i fynychu a sefyll ar ochr y cae a chefnogi'r clybiau hyn. Mae hynny'n wahanol i fod ar y teledu. Mike, rwy'n hapus i ildio.