Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 27 Mawrth 2019.
So, dydy o ddim yn ddigon da. A thra dwi’n sylweddoli bod yna gyfyngiadau ariannol ar ein gêm ni yng Nghymru, yn sicr o gymharu â Lloegr a chymharu â Ffrainc, er enghraifft, os ydyn ni o ddifri ynglŷn â throi’r gêm yn gêm genedlaethol, mae’n rhaid inni ei throi hi’n gêm broffesiynol yn genedlaethol hefyd. Ac mae ymateb y gogledd i gemau dan 20 Cymru, yn sicr, ym Mae Colwyn yn brawf o’r archwaeth sydd yna i weld rygbi ar y lefel uchaf yn y gogledd. Llyr.