Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 27 Mawrth 2019.
Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad, ond oni allwch ddeall yn achos Ynys Môn, er enghraifft, ei fod fwy neu lai'n union 50:50? Gall pethau newid o un diwrnod i'r llall bron, ac mae awgrymu ein bod yn anwybyddu yr hyn a ddywedwyd a beth oedd canlyniad y refferendwm hwnnw—beth ar y ddaear y buom yn ei wneud dros y tair blynedd diwethaf heblaw ceisio dod o hyd i ffyrdd o wneud iddo weithio? Ac rydym ni fel plaid nad yw eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno pob math o ffyrdd o edrych ar ôl buddiannau Cymru a lliniaru effeithiau niweidiol Brexit.