Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 27 Mawrth 2019.
Tybed a fyddai Alun Davies wedi cefnogi pleidlais y bobl pe byddai canlyniad y refferendwm wedi mynd y ffordd arall. Ond nid dyna'r ffordd yr aeth hi. Roedd 85 y cant o'r pleidleisiau a fwriwyd yn etholiad cyffredinol y DU yn 2017 dros bleidiau a oedd wedi ymrwymo yn eu maniffestos i lynu at ganlyniad y refferendwm a gweithredu Brexit. Felly mae'n anffodus iawn fod llawer yn y lle hwn wedi rhoi eu holl egni ers hynny i hyrwyddo senarios gwaethaf posibl yn hytrach na pharchu'r bobl.
Mae negodiadau rhwng yr UE a'r DU wedi dilyn proses fesul cam, a oedd yn hysbys ac wedi'i deall o'r cychwyn, ond dewisodd rhai gamliwio hyn fel amser a wastraffwyd. Mae llawer o'r un bobl wedi defnyddio yr hyn a gytunwyd ymhell cyn cytundeb ymadael y Prif Weinidog fel esgus dros ei wrthwynebu yn awr. Mae mater ffin Iwerddon yn bwysig, ond mae'r testun cyfreithiol yn deud yn glir fod y ddau barti am osgoi'r defnydd o'r trefniadau wrth gefn ac ni all erthygl 50 sefydlu perthynas barhaol. Mae'r UE eu hunain wedi dweud yn glir iawn nad ydynt am i'r DU aros mewn undeb tollau estynedig ac yn aelod o'r farchnad sengl ar ôl Brexit.
Fodd bynnag, mae'r cytundeb go iawn a negodwyd gan y Prif Weinidog a'i thîm, a oedd yn galw am gytundeb â'r 27 gwladwriaeth arall, yn ymwneud â llawer iawn mwy na hyn. Fel y nododd y Prif Weinidog, mae'r cytundeb hwn yn cyflawni canlyniad y refferendwm, gan adfer rheolaeth ar ein harian, ein ffiniau a'n deddfau, gan ddiogelu swyddi a diogelwch cenedlaethol ar yr un pryd. Er na fyddech yn gwybod hynny o'r ddadl ddramatig ynghylch y cytundeb ymadael â'r UE a'r datganiad gwleidyddol, a'r sylw a roddwyd iddynt, mae cytundeb Brexit Prif Weinidog y DU yn cynnwys amrywiaeth o fesurau diogelwch, gan gynnwys trefniadau y cytunwyd arnynt a fydd yn gadael i ddata barhau i lifo'n rhydd; trefniadau masnach ar gyfer nwy a thrydan; rheolau cadarn i gadw masnach deg fel na all y DU na'r EU sybsideiddio eu diwydiannau yn annheg yn erbyn ei gilydd; cytundeb trafnidiaeth awyr cynhwysfawr a mynediad tebyg ar gyfer cwmnïau cludo nwyddau, bysiau a choetsys; trefniadau a gytunwyd fel y gallwn barhau i gymryd rhan yn rhaglenni'r UE fel Horizon ac Erasmus; cytundeb cydweithredu gydag Euratom, sy'n cwmpasu'r holl feysydd allweddol lle byddem yn dymuno cydweithio; a pharhau teithio heb fisâu i'r UE at ddibenion gwyliau a theithiau busnes. Wel, clywais wleidyddion yn dweud wrth y cyhoedd, gyda diffuantrwydd ymddangosiadol, nad oedd dim o hynny yn y cytundeb ymadael sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd.
Mae Plaid Cymru, fel cyd-awduron y Papur Gwyn ar y cyd rhyngddynt a Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017, 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn onest ynglŷn â'u bwriad, ie, i fradychu canlyniad refferendwm yr UE, er bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr UE. Mewn cyferbyniad, mae Gweinidogion Llafur ac aelodau'r meinciau cefn—neu'r rhan fwyaf ohonynt—yn honni eu bod yn parchu canlyniad y refferendwm gan hyrwyddo'r hyn sy'n gyfystyr â Brexit mewn enw'n unig. Er bod oddeutu 60 y cant o etholaethau Llafur y DU wedi pleidleisio dros adael, gan gynnwys 59 y cant yn Wrecsam a 56 y cant yn Sir y Fflint, mae Prif Weinidog Llafur Cymru wedi dadlau droeon o blaid y cynllun y manylir arno yn y Papur Gwyn a luniwyd ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llafur ar gyfer parhau aelodaeth y DU o'r undeb tollau a'r farchnad sengl. Byddai hyn yn golygu na fyddai gennym reolaeth ar ein ffiniau, ein masnach na'n cyfreithiau, a chyfraniad ariannol diddiwedd gan y DU i goffrau'r UE. Mewn geiriau eraill: ie, brad llwyr gan sefydliad Cymreig sy'n benderfynol o rwystro Brexit, ac sy'n trin pobl gyda dirmyg trahaus. Fe gymeraf un ymyriad.