Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 27 Mawrth 2019.
Yn y Siambr hon ddoe, treuliodd Llywodraeth Cymru amser sylweddol yn cyflwyno gwelliannau deddfwriaethol i baratoi'r llyfr statud ar gyfer Brexit: rheoliadau ar bopeth o datws i drethu, iechyd planhigion i gyfrifyddu, o ofal cymdeithasol i faterion gwledig—pob dim yn wir. Ac er na chymerodd y pleidleisiau hyn lawer o amser, gwn y bydd y gwaith paratoi wedi cymryd amser. Bydd wedi cymryd diwrnodau o waith gofalus a drud i gyfreithwyr, swyddogion, Gweinidogion, pwyllgorau a chyfieithwyr. Cyfran fach iawn yw'r rheoliadau hyn o'r gwaith sy'n mynd rhagddo oddi mewn a'r tu allan i'r Llywodraeth. Ystyriwch y miliynau o oriau gwaith a dreulir ar Brexit yn Whitehall, ac i beth? Er mwyn inni fod yn barod yn gyfreithiol am gyflafan economaidd.
Nid wyf yn amau bod angen i'r Llywodraeth wneud y gwaith hwn, ond mae'r gwastraff amser, egni ac adnoddau enfawr rydym eisoes wedi'u harllwys i lawr draen Brexit yn fy arswydo. Pan ystyriwn y dyfroedd stormus rydym ynddynt, hoffwn weld mwy o egni yn cael ei roi tuag at gadw'r llong economaidd ar wyneb y dŵr yn hytrach na pharatoi ar gyfer pan fydd yn suddo. Oherwydd mae'n fwy na'r ffaith ei fod yn costio arian, amser ac adnoddau i'r Llywodraeth a threthdalwyr. Dywedodd Airbus yn ddiweddar eu bod eisoes wedi gwario degau o filiynau yn paratoi ar gyfer Brexit 'dim bargen'—hynny yw degau o filiynau a ddylai fod wedi'i wario yma yng Nghymru ar ymchwil a datblygu, prentisiaethau ac offer newydd. Nid yw'n fawr o syndod fod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Chyngres yr Undebau Llafur bellach wedi dweud wrth Brif Weinidog y DU fod y wlad yn wynebu argyfwng cenedlaethol. Roeddent yn dweud,
Ni allwn orbwysleisio difrifoldeb yr argyfwng hwn i gwmnïau a phobl sy'n gweithio.
A beth oedd ymateb Theresa May i'r argyfwng hwn? Yn gyntaf, gwneud un o'r areithiau mwyaf cywilyddus a wnaed erioed gan Brif Weinidog yn y wlad hon, yn beio'r Senedd a thrwy hynny, ASau unigol am fradychu'r cyhoedd—difenwad gwrthun mewn gwlad a gollodd Aelod Seneddol o ganlyniad i lofruddiaeth wleidyddol dair blynedd yn ôl yn unig.