Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 27 Mawrth 2019.
Yr hyn a wnaeth yn yr araith honno oedd ei gwneud yn glir ei fod yn barod i weithio gydag aelodau o'r Gymanwlad, ac rwy'n fwy na pharod i'w gwneud yn glir ei fod wedi dweud na allent ymrwymo'r wlad hon i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb aelodau eraill o'r Gymanwlad Brydeinig. A dywedodd, ni ddylid colli unrhyw amser yn trafod y cwestiwn gyda'r tiriogaethau a cheisio eu darbwyllo bod eu lles hwy yn ogystal â'n lles ninnau yn gorwedd mewn Ewrop Unedig.
Dyna pam na wnaeth yr ymrwymiad ar y pwynt hwnnw. Fe'i gwnaeth yn ddiweddarach, a dyna oedd y rheswm pam na wnaeth hynny ar y pryd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n warthus fod UKIP wedi dwyn delwedd Churchill i gefnogi eu hymgyrch faleisus o gamwybodaeth yn y cyfnod cyn y refferendwm bron dair blynedd yn ôl.
Nawr, i symud at yr ail bwynt, ni chredaf ei bod yn wir fod yr UE rywsut yn dwyn pŵer oddi wrth aelod-wladwriaethau heb eu caniatâd. O dan y Ddeddf Ewropeaidd Sengl ym 1986, gwnaed y mwyafrif helaeth o benderfyniadau drwy sicrhau barn unfrydol. Ac mae unrhyw newidiadau sylweddol i'r cytuniadau yn dal i alw am farn unfrydol. Ond pwy oedd pensaer y symudiad tuag at bleidleisio mwyafrifol? Yr ail eicon mawr i gefnogwyr Brexit, Margaret Thatcher. Ac er ei bod yn wir fod pleidleisio drwy fwyafrif cymwysedig wedi ehangu dros y 30 mlynedd diwethaf, mae'r rhan fwyaf o'r penderfyniadau a wneir gan Gyngor Gweinidogion yr UE yn deillio o farn unfrydol. Ac ymhell o fod yn dystiolaeth o duedd ddiatal, ni chafwyd unrhyw ehangu pellach yn y maes sy'n amodol ar bleidleisio mwyafrifol ers cytuniad Lisbon yn 2007. Ac wrth gwrs, nid yw'n wir i ddweud bod yr holl bŵer wedi'i grynhoi yn nwylo sefydliadau anetholedig—dylwn i wybod, roeddwn yno am 15 mlynedd fel Aelod o Senedd Ewrop—ac er bod Cyngor y Gweinidogion hefyd yn cynnwys Gweinidogion sy'n atebol i'w deddfwrfeydd eu hunain. Ac fel y cyfryw, nid yw Cyngor y Gweinidogion ronyn yn fwy annemocrataidd na thŷ uchaf Senedd yr Almaen, y Bundesrat, sy'n cynrychioli'r Länder neu'r gwladwriaethau mewn cyfansoddiad, unwaith eto, a luniwyd gan Brydain yn sgil yr ail ryfel byd.
Ac er ei bod yn wir fod y Comisiwn yn cael ei benodi, nid ei ethol yn uniongyrchol, mae'n gwbl ryfeddol ei fod yn cael ei ystyried yn rym didrugaredd, bob amser yn symud i un cyfeiriad. Wrth gwrs, i'r gwrthwyneb, mae Comisiynau olynol wedi adlewyrchu diwylliant gwleidyddol amlycaf aelod-wladwriaethau ar wahanol adegau, o'r blaengar, o Jacques Delors, i ddull llawer mwy laissez-faire Jean-Claude Juncker. Ac os oes perygl, yn wir, fel y mae pedwerydd pwynt y cynnig yn ei roi, y bydd y DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd er gwaethaf canlyniad y refferendwm, bydd y bai am hynny yn gyntaf ar ddull y Prif Weinidog o weithredu—wedi'i hannog yn wreiddiol gan UKIP a chefnogwyr Brexit i anwybyddu barn a buddiannau'r 48 y cant, ac ni wnaethant ymdrech hyd yn oed i geisio gweithio ar sail drawsbleidiol—ac yn ail ar y rhai a werthodd brosbectws ffug i'r bobl drwy honni mai ein trafodaethau gyda'r UE fyddai'r rhai hawsaf mewn hanes. Wel, onid yw hynny wedi mynd yn dda?
O ran y farn y byddai aros yn yr UE yn ein gwneud yn agored i uno agosach fyth yn erbyn ein hewyllys, mae'r gwir ychydig yn wahanol wrth gwrs. Os byddwn yn gadael, mae'n wir y bydd newid yn y cydbwysedd grym o fewn yr UE, ac mewn rhai meysydd, er enghraifft cydweithio milwrol a rheoleiddio agosach yn y sefydliadau ariannol, mae'n debygol y ceir newidiadau y byddai'r DU wedi'u rhwystro neu o leiaf yn anghyfforddus yn eu cylch. Ond fel a ddaw'n fwyfwy eglur, mae angen inni gadw mewn aliniad economaidd agos gyda'r UE, gan fod rhannau mawr o'n heconomi, yn anad dim ein sylfaen weithgynhyrchu, yn dibynnu ar gadwyn gyflenwi integredig gyda'r Undeb Ewropeaidd ac maent yn debygol fel arall o fod yn anghystadleuol. Ac mae cadw mewn aliniad agos gyda'r UE yn ymarferol yn golygu derbyn rhan helaeth o'i systemau rheoleiddio, gan fod gan farchnad o 450 miliwn, fel y gwelwyd yn y negodiadau hyd yn hyn, lawer mwy o ddylanwad na marchnad o 65 miliwn o bobl. Ac mae'n eironi blinderus yn llanastr Brexit, y bydd gennym lai yn hytrach na mwy o reolaeth drwy adael yr UE ar yr amgylchedd y mae ein busnesau'n trefnu eu hunain ynddo.
Felly, i gloi, mae'r cynnig yn gwbl gamarweiniol, yn gwbl gyfeiliornus ac nid yw'n syndod fod pob un o'r tair plaid arall yn y Cynulliad wedi llunio gwelliannau sy'n dechrau gyda 'Dileu popeth'.
Nawr, mae'n werth nodi hefyd, rwy'n credu, fod Theresa May—. Un peth yw iddi gynnig camu lawr heb ddyddiad pendant—felly nid ydym fawr pellach ymlaen ar hynny, oherwydd fe wyddem ei bod hi'n mynd cyn yr etholiad cyffredinol nesaf—ond ni fydd newid arweinydd yn newid sylwedd y ddadl.