Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 2 Ebrill 2019.
Prif Weinidog, mae system drafnidiaeth integredig yn wych os oes gennych chi system drafnidiaeth bysiau cyhoeddus effeithiol. Yng Ngorllewin De Cymru, mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r cludiant ar fysiau, nid ar y rheilffyrdd. Ac rwyf i wedi codi mater Cwm Afan droeon. Mae gen i etholwyr yng nghwm Afan sydd â bws bob dwy awr—ac mae hynny yn ystod y dydd—a dim yn gynnar yn y bore, dim yn hwyr fin nos. Nawr, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cynigion i annog awdurdodau lleol i gefnogi a blaenoriaethu'r systemau trafnidiaeth bws yn y cymunedau hynny sy'n dibynnu ar fysiau yn unig fel modd o gludiant cyhoeddus?