Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 2 Ebrill 2019.
Diolch, Llywydd. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safle na chymuned lle gallai gwastraff ymbelydrol gael ei waredu’n ddaearegol, a does dim bwriad i wneud hynny. Does dim modd adeiladu cyfleuster yng Nghymru oni bai bod cymuned yn fodlon ei dderbyn, a’i fod yn cael cydsyniad llawn o ran cynllunio, diogelwch a’r amgylchedd.