Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 2 Ebrill 2019.
Fel yr ydym wedi clywed gan Suzy Davies, cyflwynwyd cynlluniau gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar ar gyfer gorsaf reilffordd parcffordd gorllewin Cymru ar safle Felindre ger Abertawe. Ac er fy mod i'n cefnogi'n llawn y cam hwn i gyflymu cysylltiadau o'r dwyrain i'r gorllewin, yr hyn na allwch ei wneud yw anghofio pwysigrwydd llwybrau o'r gogledd i'r de. Felly, pa waith ydych chi'n ei wneud gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cynnig Felindre yn cyd-fynd â'r angen i ddatblygu gwasanaethau rheilffyrdd i mewn i'n cymunedau yng nghymoedd y de-orllewin?