Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 2 Ebrill 2019.
Wel, mae'r Aelod yn ymwybodol, Llywydd, mi wn, na allaf wneud unrhyw sylw heddiw ynghylch ffordd liniaru'r M4 gan fy mod i wedi fy rhwymo i beidio â gwneud hynny gan y rheolau y mae Llywodraethau wedi'u rhwymo ganddynt yn ystod cyfnod is-etholiad. Mae'r pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud yn un pwysig, wrth gwrs, bod cynhesu byd-eang yn her wirioneddol sy'n wynebu'r byd cyfan a bod yn rhaid trin y camau y mae unrhyw Lywodraeth yn eu cymryd o ran buddsoddiadau mawr yn erbyn yr effaith y maen nhw'n ei chael ar greu dyfodol byd-eang ar gyfer cenedlaethau a ddaw ar ein holau ni a gwneud cynnydd gwirioneddol o ran y problemau y mae'r newid yn yr hinsawdd yn eu creu.