Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 2 Ebrill 2019.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, rŷm ni wedi gweld ymgais gan y Senedd i geisio llywio'r Deyrnas Unedig o'r moroedd tymhestlog sydd wedi dod yn agos at suddo'n gwlad. Mewn cyfres o bleidleisiau, gwelwyd Tŷ'r Cyffredin yn nesáu’n raddol tuag at weledigaeth wahanol ar gyfer Brexit. Ychydig iawn o amser sydd ar ôl, ond, mewn ychydig ddyddiau, mae'r Aelodau Seneddol wedi llwyddo i gael persbectif sy'n gyffredin i fwy o bobl nag y llwyddodd y Prif Weinidog a'i Chabinet ei wneud mewn bron i dair blynedd.
Gadewch imi ddechrau, felly, a hynny'n anarferol, o bosib, drwy dalu teyrnged i rai o'r Aelodau Seneddol sydd wedi rhoi buddiannau eu gwlad o flaen teyrngarwch pleidiol ac wedi mynd ati o ddifrif i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen a allai sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin, hyd yn oed os yw hynny weithiau'n golygu rhoi eu gyrfaoedd gwleidyddol eu hunain yn y fantol—Aelodau fel Nick Boles ar ochr y Ceidwadwyr, Yvette Cooper a Hilary Benn ar yr ochr Llafur, ac yn wir, Aelodau Plaid Cymru a dynnodd sylw yn ystod y pleidleisio neithiwr at 'Diogelu Dyfodol Cymru', dogfen a gefnogwyd gan y Cynulliad yma fel un ffordd ymlaen drwy hyn oll. Ond mae gormod o Aelodau o hyd, rwy'n ofni, yn chwarae gêm double or quits. Dim ond y dewis y maen nhw'n ei ffafrio y maen nhw'n fodlon pleidleisio drosto, yn hytrach na'r dewisiadau ehangach a fyddai'n arwain at gonsensws i'n hatal rhag ymadael heb gytundeb ac o leiaf yn ein gwarchod rhag y rhan fwyaf o'r niwed economaidd a chymdeithasol a fyddai'n cael ei achosi gan Brexit caled yr ERG.
Ac mae'n hollol glir erbyn hyn mai'r prif rwystr i sicrhau datrysiad gyda chefnogaeth eang yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Llywodraeth yw hon sydd ddim yn fodlon derbyn 'na' fel ateb. Llywodraeth a alwodd y bleidlais ddydd Gwener nid am fod ganddyn nhw unrhyw obaith gwirioneddol o ennill, ond am eu bod eisiau gallu bwrw'r bai ar y Senedd am yr anallu i ddod i gytundeb, yn hytrach nag ar eu hystyfnigrwydd nhw eu hunain. Gweinidogion sy'n meddwl mwy am eu huchelgais arweinyddol eu hunain nag am yr hyn sydd orau i ddyfodol y wlad.