Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 2 Ebrill 2019.
Un o argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol oedd, yn ystod dadl Cyfnod 1, y dylwn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol am hynt y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn i weithredu'r Bil. Mae hyn yn deillio o ohebiaeth a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, yr ymatebodd Prif Weinidog Cymru iddi ym mis Ionawr. Ailadroddodd Prif Weinidog Cymru ein barn bendant bod y Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol ym mhob agwedd ac mai effaith y Bil fyddai gwneud y gyfraith yng Nghymru yn fwy hygyrch.
Nid yw'r pryderon a fynegwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y gallai creu Deddf ychwanegol ynghylch y dehongliad o'r ddeddfwriaeth wneud y gyfraith yn llai yn hytrach na mwy hygyrch, yn ein barn ni, yn ystyried y ffaith y ceir Deddfau tebyg ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid ydyn nhw ychwaith yn llwyr werthfawrogi ein hawydd a'n hangen i wneud darpariaeth bwrpasol a dwyieithog ar gyfer Cymru. Nododd llythyr Prif Weinidog Cymru y byddem yn fodlon i swyddogion barhau i drafod unrhyw faterion cynhenus, ond nid ydym ni wedi cael ateb hyd yn hyn. Gofynnwyd imi hefyd gan y pwyllgor i roi esboniad clir yn ystod dadl Cyfnod 1 o'r hyn a olygir gan hygyrchedd cyfraith Cymru. Er mwyn i gyfraith Cymru fod yn hygyrch, mae angen iddi fod yn glir ac yn sicr ei heffaith, yn ogystal â bod ar gael ac yn hawdd i rywun lywio ei ffordd drwyddi. Mae angen i hyn fod yn wir nid yn unig o ran Deddfau unigol neu offerynnau statudol, ond hefyd, ar y cyd, pob rhan o'r gyfraith ar bwnc penodol a'r llyfr statud yn ei gyfanrwydd.
Mae pwysleisio 'ar y cyd' yn hanfodol. Mae deddfwriaeth fodern yng Nghymru a ledled y DU yn amlach na pheidio wedi ei drafftio'n dda ac yn gyffredinol bydd yn cynnwys mynegiant clir o'r newid yn y gyfraith dan sylw. Bydd y ddeddfwrfa yn craffu ar y deddfiad ac yn ddiweddarach bydd ar gael yn eang pan gaiff ei gyhoeddi ar-lein. Ynddo'i hun, byddai, felly, fel arfer yn gwbl hygyrch. Fodd bynnag, anaml y bydd deddfiad o'r fath yn sefyll ar ei ben ei hun, a pherthynas pob deddfiad â gweddill y llyfr statud sy'n gwneud deddfwriaeth yn anhygyrch. Y rheswm dros hyn yw bod y cysylltiadau rhwng un darn o ddeddfwriaeth a rhai eraill yn aneglur yn aml.
Mae gwneud deddfwriaeth yn hygyrch o bosib yn ymwneud yn gyntaf ag egluro cyd-destun unrhyw newid a wneir yn y gyfraith ac yna sicrhau bod pob cyfraith ar unrhyw bwnc penodol i'w gweld gyda'i gilydd. Wedi dweud hynny i gyd, mae'n gwestiwn goddrychol braidd pa un a yw'r gyfraith yn hygyrch ac nid yw ceisio diffinio'n union beth y mae'n ei olygu yn ei gwneud yn llai goddrychol. Mae'n bwysig cofio mai'r ddyletswydd yw gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Mae'n ymwneud ag arferion da, am wella'n barhaus, ac mewn gwirionedd ei wneud yn rhan o'n meddylfryd bob amser wrth ddatblygu cyfraith. Dyma un rheswm pam na allaf dderbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai'r Llywodraeth orfod, yn statudol, fynd y tu hwnt i'r ddyletswydd yn y Bil presennol ac ychwanegu dyletswydd i weithredu rhaglen hygyrchedd benodol.
Mae'r tasgau sy'n angenrheidiol i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch yn amlochrog, a gyda hynny mewn golwg, cytunaf â'r argymhelliad a wnaed y dylai mesurau anneddfwriaethol sydd â'r bwriad o hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru fod yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei wneud, nid yn rhywbeth y gall ei wneud.
Mae dau o argymhellion y pwyllgor yn ymwneud ag adrodd ar gynnydd, ac rwy'n falch o hysbysu Aelodau fy mod yn derbyn y ddau argymhelliad. Bydd hyn yn golygu y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn adrodd yn flynyddol ar gynnydd y rhaglenni i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Bydd hyn yn golygu y bydd pedwar adroddiad bob tymor, yn dilyn pob rhaglen a gyflwynir, a bod yn rhaid iddo ddigwydd o fewn chwe mis ar ôl penodi Prif Weinidog Cymru ar ôl etholiad cyffredinol. Yn rhan o'r broses adrodd honno, byddwn hefyd yn adolygu effeithiolrwydd Rhan 1 y Bil hanner ffordd drwy dymor nesaf y Cynulliad.
Yn olaf, roeddwn yn falch o weld na welodd y pwyllgor unrhyw reswm dros anghytuno â'm cynnig i ailddatgan adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n ymwneud â statws cyfartal cyfreithiol y testunau Cymraeg a Saesneg a darparu ar gyfer hynny yn y Bil hwn. Gan dybio y caiff egwyddorion cyffredinol y Bil eu pasio, byddaf yn cyflwyno gwelliant yn gwneud hynny yng Nghyfnod 2, ynghyd â nodyn esboniadol drafft.