Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 2 Ebrill 2019.
Mae gwella hygyrchedd yn brosiect tymor hir, ond, fel y nodais yn gynharach, mae hynny yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth ein bod yn ymgymryd â'r dasg. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu sylwadau i'r ddadl, am eu cefnogaeth i hynt y Bil i Gyfnod 2, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wrth iddyn nhw barhau i graffu ar y Bil. Diolch yn fawr.