Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae cynnydd da yn cael ei wneud o ran cyflwyno'r Bil hwn yng Nghymru. Cafwyd ymateb hynod o gadarnhaol i'r ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru, a bwriad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yw gosod y Bil gerbron y Cynulliad hwn cyn toriad yr haf fel y gall y gwaith craffu ddechrau.