Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolchaf i'r Aelod am ei gefnogaeth i'r ddeddfwriaeth. Mae gan syrcas Mondao drwydded o dan reoliadau trwyddedu Lloegr, ond wrth gwrs, bydd y trefniant hwnnw'n cael ei oddiweddyd gan ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio yn y Cynulliad hwn, pe byddai'n llwyddo i ennill cefnogaeth ar draws y Siambr. Yna, bydd yn rhaid iddyn nhw ac unrhyw weithredwyr eraill ufuddhau i'r gofynion deddfwriaethol newydd yma yng Nghymru.