Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 30 Ebrill 2019.
Cytunaf yn llwyr â'r aelod bod cam-drin plant yn fater y mae'n rhaid i Lywodraethau roi sylw difrifol iawn iddo a bod yn rhaid i rieni gael eu cynorthwyo gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, weithiau i gyflawni'r busnes anodd iawn o fagu plant o dan amgylchiadau arbennig o andwyol. Rydym ni eisoes yn buddsoddi symiau sylweddol o arian, drwy'r gwasanaeth addysg a thrwy ein gwasanaethau cymdeithasol, i ddarparu'r math hwnnw o gymorth ac mae gennym bob bwriad o barhau i wneud hynny yn y dyfodol.