6. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cymorth i Ddysgwyr sydd o dan Anfantais a Dysgwyr sy'n Agored i Niwed

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 30 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:01, 30 Ebrill 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged bersonol i Kirsty Williams am ei dyfalbarhad wrth ymgyrchu dros y grant datblygu disgyblion, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr oedd yn ei wneud yn y Cynulliad diwethaf yn ogystal ag yn y Cynulliad hwn. Rwy'n credu ei fod yn offeryn ar gyfer sicrhau ein bod yn ceisio cynyddu'r cyfleoedd i fyfyrwyr o gefndiroedd tlotach i'r un lefel â'u cyfoedion. Felly, yn hytrach na gwneud pwynt gwleidyddol rhad, rwy'n credu y dylem ni gydnabod y llwyddiannau.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi mai yn y blynyddoedd cynnar y bydd yr effaith fwyaf, ac roeddwn i'n meddwl tybed faint o sylw yr ydych chi'n ei roi i ddeilliannau'r plant hynny sy'n elwa ar y rhaglen Dechrau'n Deg o ran eu parodrwydd i ddechrau yn yr ysgol feithrin—nifer y geiriau maen nhw'n eu siarad a'u sgiliau echddygol ac ati. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, os yw hynny'n gweithio'n dda, bod dadl dros sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i bob plentyn nad yw'n cael y buddion hynny gan rieni sy'n gallu prynu unrhyw beth maen nhw'n ei ddymuno.

Roeddwn i'n arbennig o hapus ddoe i ddysgu am y clwb garddio yn Ysgol Gynradd Springwood yn fy etholaeth i, sydd yn Llanedeyrn, ar gyfer myfyrwyr blynyddoedd 1 a 2. Oherwydd, i'r rhai hynny nad oes ganddyn nhw ardd neu fynediad at ardd eu hunain, mae mantais enfawr i blant o'r ddarpariaeth ar ôl ysgol, sef y rhaglen gyfoethogi y mae'n wirioneddol bwysig i bob ysgol ei chynnig. Gan na fydd y lefelu hwnnw yn bodoli os nad oes gennym ni glybiau cerddoriaeth, neu glybiau garddio neu gyfleoedd chwaraeon i'r rhai ifanc iawn sy'n methu â mynd â'u hunain i'r pethau hynny.

Mae'r hawl i nofio am ddim y mae Llywodraeth Cymru yn talu amdano, mae'n ymddangos i mi, yn un o'r cyfrinachau gorau, mae arnaf ofn, y mae ein canolfannau hamdden yn eu cadw, yn sicr yng Nghaerdydd. Mae'n hynod anodd cael gwybod pryd y mae'r pethau hyn yn digwydd, ac nid yw'r bobl y mae angen y cyfle nofio am ddim arnyn nhw mewn gwirionedd yn cael yr wybodaeth briodol am hynny, felly rwy'n credu bod rhwystr gwirioneddol yn hynny o beth. Rwy'n sylweddoli efallai nad yw hyn yn eich portffolio chi, ond mae'n rhywbeth y mae angen i un o'r pwyllgorau gynnal rhyw fath o werthusiad arno.

Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'n fawr yr ymgynghoriad yr ydych chi wedi ei gynnal ar wisgoedd ysgol, oherwydd nid ydym eisiau i wisgoedd ysgol fod yn eitemau drud; mae angen iddyn nhw beidio â threulio'n hawdd, rhoi gwerth am arian, ac wedyn mae angen i ni annog ysgolion i lunio rhaglen gyfnewid er mwyn gallu eu trosglwyddo, gan fod rhai plant yn tyfu trwy'u dillad mor gyflym fel eu bod yn rhy fychan er eu bod bron yn newydd. Felly, yn rhan o'n pethau argyfwng hinsawdd, mae hwn yn fater pwysig iawn—i sicrhau bod eitemau nad ydyn nhw wedi eu gwisgo rhyw lawer yn cael eu hailddefnyddio yn y man cywir.

O ran cynhyrchion mislif, faint o ganllawiau sy'n cael eu rhoi i sefydliadau i feddwl am gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio? Oherwydd, nid yw'r mooncup yn addas ar gyfer plant pan fyddan nhw'n dechrau cael mislif, ond mewn colegau addysg bellach, byddai'n hynod bwysig eu bod yn gwybod eu bod ganddyn nhw am 15 mlynedd. Felly, mae hynny'n ymddangos i mi yn llawer pwysicach na rhywbeth sy'n gweithio dros dro.

Rwy'n gobeithio y bydd y fframwaith gwerthuso a gwella diwygiedig, sy'n gosod pwys ar y gwerth a ychwanegir gan ysgolion ar gyfer pob disgybl, yn rhoi terfyn ar yr ysgolion hynny—ac maen nhw yn bodoli, yn fy etholaeth i—lle caiff disgyblion eu heithrio oherwydd bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw neu oherwydd na fydd eu cyrhaeddiad yn agos i'r brig, neu na fyddan nhw'n gyflawnwyr uchel. Mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n gwbl hanfodol bod pob ysgol yn gwerthfawrogi pob un plentyn ac yn sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd gorau yn unol â'u gallu.

Yn olaf, rwy'n credu bod y cynnydd o 35 y cant o ran myfyrwyr rhan-amser, y mae eu hanner yn gymwys ar gyfer yr uchafswm, yn gyflawniad aruthrol a hoffwn eich llongyfarch ar hynny.