Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 30 Ebrill 2019.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am y sylwadau a'r cwestiynau y mae hi wedi eu codi y prynhawn yma? Mae gan y Llywodraeth ddull gweithredu trawslywodraethol a dull gweithredu ar draws portffolios ar gyfer materion sy'n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym ni'n ymwybodol iawn o ganlyniadau profiadau o'r fath ar allu plentyn i ddysgu. Rwyf i a'm cydweithiwr, Julie Morgan, yn cefnogi nifer o fentrau, megis yr Hyb Profiadau Andwyol yn ystod Plentyndod, a gynlluniwyd i ddatblygu arferion gorau ac ymgysylltu ag addysgwyr er mwyn iddyn nhw eu hunain ddeall yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud mewn ysgolion meithrin ac ystafelloedd dosbarth i oresgyn yr heriau sy'n wynebu plant sydd wedi dioddef profiad o'r fath.
Ddoe ddiwethaf, roeddwn i gyda Suzy yn Ysgol Gynradd Clase yn ei rhanbarth hi, yn dilyn gwahoddiad ganddi, i weld sut maen nhw'n defnyddio'r grant datblygu disgyblion i ddarparu amgylchedd sy'n meithrin ac yn rhoi cymorth penodol i'r plant hynny y mae ei angen arnyn nhw. Mae'n ddiddorol iawn gweld datblygiad y gwasanaeth hwnnw. Ar y cychwyn, roedd ar gael i'r plant ieuengaf un, ond mae'r athrawon wedi ymateb i anghenion eu poblogaeth gyfan ac erbyn hyn caiff plant ym mlynyddoedd 4, 5 a 6 ddod i mewn ar amser egwyl ac amser cinio, eistedd gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig a siarad am unrhyw beth a allai fod yn eu poeni gartref neu y tu allan i'r ysgol sydd wedi effeithio ar eu hastudiaethau. Byddwn yn parhau i fonitro'r gallu i ymateb yn gadarnhaol i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, o gofio, fel y dywedais, yr hyn a wyddom am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar allu plentyn i ddysgu.
Holodd Suzy Davies ynghylch materion yn ymwneud ag atebolrwydd. Rydym yn symud at system atebolrwydd sy'n fwy seiliedig ar ddeallusrwydd, sydd wirioneddol yn ysgogi egwyddorion tryloywder. Mae hyn yn arbennig o bwysig i mi o ran cyflawniad plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a phlant a allai fod â phrofiad o dderbyn gofal. Yr hyn a fu gennym yn y gorffennol yw system, mewn gwirionedd, sydd wedi cuddio gwir lefelau perfformiad y plant hynny ac nid yw hyn wedi ei gwneud yn hawdd i ni nodi, ac i ysgolion nodi, sut maen nhw'n perfformio o'u cymharu ag ysgolion tebyg. Mae'n peri rhwystredigaeth i mi, er enghraifft, bod ysgolion yn yr un ardal awdurdod lleol, yn yr un ddinas, â'r un lefel neu gyfran o blant sy'n cael prydau ysgol am ddim a bod rhai o'r ysgolion hynny'n gwneud yn eithriadol o dda ar gyfer y plant hynny a bod eraill ar ei hôl hi. Mae angen data llawer mwy deallus arnom ni i allu llunio'r cymariaethau hynny er mwyn inni allu meincnodi, ond hefyd i gydnabod, mewn gwirionedd, bod pob un plentyn yn y garfan yn bwysig. A dim ond oherwydd bod rhywun wedi llwyddo i gael gradd C, os oedd gan y person hwnnw y potensial i gael gradd A, nid yw hynny'n ddigon da. Weithiau, i rai o'n plant, yn enwedig plant o gefndir mwy difreintiedig, rydym wedi gosod terfyn ar eu huchelgeisiau. Yn gynharach, fe wnaethom ni sôn am ddeddf gofal gwrthdro a'r canlyniadau i bobl o gefndir economaidd-gymdeithasol tlotach a'u gallu i ddefnyddio gwasanaethau. Os ydym am fod yn onest, weithiau rydym ni wedi rhoi'r terfyn ar yr uchelgais sydd gennym ar gyfer ein plant o'n cefndiroedd tlotach, ac mae'n rhaid i ni ddatgelu hynny a herio ein hunain a'r system o ddifrif i wneud yn well dros y plant hynny.
O ran atebolrwydd, mae cam cyntaf atebolrwydd ar ysgwyddau'r gweithwyr proffesiynol eu hunain. Ni all y system addysg yng Nghymru ddim ond bod cystal â'r bobl sy'n sefyll o flaen ein plant ac yn gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc o ddydd i ddydd. Eu hatebolrwydd proffesiynol nhw a'u parodrwydd i weithio yn unol â'r safonau addysgu yr ydym wedi'u datblygu yw cam cyntaf ein cyfundrefn atebolrwydd. Wrth gwrs, ar ôl hynny, mae'r mater o lywodraethu a llywodraethwyr ysgol, ein gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol, ac, wrth gwrs, Estyn, a byddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi cyhoeddi manylion am sut yr ydym yn disgwyl, mewn gwirionedd, i Estyn fod mewn ysgolion yn amlach o ganlyniad i'n taith diwygio addysgol.
O ran SHEP, y rhaglen haf, mae'n rhaid imi ddweud, Suzy, eich bod yn llygad eich lle, cyfrifoldeb rhieni yn bennaf yw bwydo eu plant, ond ni wn i ble yr ydych wedi bod os nad ydych chi wedi cwrdd â theuluoedd yn eich rhanbarth chi nad oes ganddyn nhw, er gwaethaf eu hymdrechion gorau a gweithio nifer o swyddi weithiau, yr arian sydd ei angen arnyn nhw i dalu eu biliau i gyd. Rwyf i'n cwrdd â mamau sy'n anwybyddu eu hangen eu hunain, yn mynd heb fwyd eu hunain, er mwyn iddyn nhw allu sicrhau bod eu plant yn bwyta. Teuluoedd—. Dim ond yn ystod gwyliau'r Pasg yr ydym wedi gweld ystadegau Ymddiriedolaeth Trussell: mae mwy o bobl yn fy etholaeth i yn dibynnu ar fanciau bwyd nag erioed o'r blaen ac nid yw hynny oherwydd eu bod yn ddiofal mewn unrhyw ffordd; y rheswm yw mai nhw yw dioddefwyr diniwed system fudd-daliadau nad yw'n gweithio a'u hanallu i ddod o hyd i waith cyflogedig sy'n caniatáu iddyn nhw dalu eu rhent, eu biliau, a'r holl bethau eraill maen nhw'n dymuno eu gwneud ar gyfer eu plant. Ac, o dan yr amgylchiadau hynny, gallwn naill ai eistedd yn ôl a gwneud dim, neu fe allwn ni, fel Llywodraeth, gymryd camau i gynorthwyo'r teuluoedd hyn. Nawr, yn 2016, pan ddatblygwyd y rhaglen SHEP gyntaf, cymerodd pum awdurdod lleol ran. Yn 2017, roedd hynny wedi cynyddu i 12 awdurdod lleol. Yn ystod yr haf eleni, bydd 21 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen SHEP gan ein bod wedi gallu cynyddu'r arian yr ydym wedi gallu gweithio gydag ef ar y cyd â CLlLC i gyflawni'r rhaglen honno.
O ran gwerthuso, wrth gwrs, mae hynny'n bwysig iawn. Deilliodd y rhaglen o waith a wnaed yn ardal Caerdydd. Gwerthuswyd y rhaglen honno, a dyna'r hyn sydd wedi rhoi'r hyder i ni wybod ein bod yn gallu cyflwyno'r rhaglen hon mewn mwy o ardaloedd. Ond rhan o'r gwaith yw rhaglen werthuso, a byddwn yn parhau i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o newyn yn ystod y gwyliau. Gwn, unwaith eto, fod Julie Morgan a minnau'n edrych i weld a allwn ymestyn y rhaglen hon y tu hwnt i ysgolion ac yn edrych ar leoliadau eraill lle y gallwn fynd i'r afael â'r ffaith, yn ystod y tymor ysgol, y bydd llawer o deuluoedd, llawer o blant, yn cael eu brecwast a'u cinio, ac yn ystod y cyfnod gwyliau o chwe wythnos mae straen ariannol sylweddol ar deuluoedd i allu talu costau ychwanegol y bwydydd hynny. Diawch, rydych chi'n gwybod hynny, mae gennych chi fechgyn gartref. Rwyf i newydd fod trwy wyliau'r Pasg ac mae fy nhair merch i wedi bwyta'r cyfan sydd yn y tŷ. Mae'n ymddangos fy mod i wedi treulio holl wyliau'r Pasg yn yr archfarchnad yn prynu mwy o fwyd oherwydd bob tro yr wyf yn mynd adref maen nhw wedi bwyta—. Rydych chi'n gwybod—mae pob un ohonom ni sydd â phlant yn gwybod—am gost ychwanegol bwydo plant yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'n sylweddol ac ni allwn osgoi hynny, ac rwy'n falch ein bod yn gallu cyflwyno SHEP mewn 21 o awdurdodau lleol eleni, diolch i'n gwaith partneriaeth â chydweithwyr mewn llywodraeth leol.
Grant Datblygu Disgyblion: clywsoch chi gan Mrs Hope ddoe yn Ysgol Gynradd Clase am bwysigrwydd y rhaglen grant a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i ysgolion. Caiff yr arian hwnnw ei drosglwyddo'n uniongyrchol i ysgolion ac nid oes unrhyw awgrym o gwbl bod unrhyw un arall yn dal gafael ar arian y grant. O ran y ffrydiau arian amrywiol eraill y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, caiff pob un o'r cynlluniau hynny ei ariannu mewn ffordd ychydig yn wahanol ond nid wyf i, ar hyn o bryd, yn bryderus ac nid oes gen i unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad yw'r arian ar gyfer SHEP na'r arian ar gyfer tlodi mislif yn cyrraedd y lle y mae ei angen.