7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cymru Greadigol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 30 Ebrill 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:10, 30 Ebrill 2019

Mae cynnwys diwylliant wrth ddatblygu'r economi, felly, yn ganolog i ddyhead yr hyn rydyn ni'n ei alw yn Gymru Greadigol, a does yna ddim gwrthdaro o gwbl yn fy meddwl i rhwng y ddau fath yna o greadigrwydd—y creugarwch mewn busnes a'r creadigrwydd mewn datblygu ac arloesi.

Mae partneriaethau a chydweithio yn allweddol i unrhyw gyflawni llwyddiannus. Rydym ni yn gweithio'n agos gyda'r busnesion a'r diwydiant creadigol, gan weithio gyda rhanddeiliad, gan gydweithio fel Llywodraeth i ddatblygu'r sector drwy wrando ar beth sydd gan y busnesion i ddweud wrthym ni, ar sail y profiad hirdymor sydd gan lawer ohonom ni yn y diwydiannau creadigol

Dŷn ni hefyd am sicrhau bod datblygiad sgiliau ar draws y sector, yn hanfodol i ni, ac mae yna bartneriaeth, wrth gwrs, yn hynny gyda Gweinidogion eraill o fewn y Llywodraeth, ond mae'r agweddau yma i gyd yn cael eu hystyried ynghyd pan fyddwn ni'n datblygu ein cynlluniau.

Mae codi safonau, hefyd, drwy gydweithio â'r diwydiant hefyd yn flaenoriaeth. Mae'n rhaid i hyn gynnwys datblygu ymrwymiadau ynglŷn â chyflogaeth dda gan bob partner o ran cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio. Mae amrywiaeth a chyfrifoldeb yn rhan hanfodol i fod yn greadigol.

Dŷn ni hefyd yn y broses o symleiddio ein cymorth ariannol i'r diwydiannau creadigol, a cheisio ffordd o allu ymateb yn fwy cyflym i alwadau'r sector. Dyna pam yr ydym ni'n symud i ddarparu ein cyllid drwy gontract economaidd, sydd yn digwydd ar draws y Llywodraeth, gan sicrhau budd i'r cyhoedd yn dilyn y buddsoddiadau cyhoeddus. 

Dŷn ni'n ogystal, hefyd, yn ceisio tynnu ar ein profiad gyda Croeso Cymru a datblygu brand Cymru, gan arwain at farchnata a hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i'r byd, dan frand newydd Cymru Greadigol. Mae hwn yn cyplysu, wrth gwrs, gyda brand Cymru yn gyffredinol. Drwy'r brand newydd, mi fyddwn ni'n hyrwyddo cyfraniad y sector greadigol i'n diwylliant a hefyd gyfraniad diwylliant i'r canfyddiad o Gymru, ei henw da a'i llwyddiant yn fyd eang.

Mae'r holl waith yma wedi'i gyflawni gan swyddogion wrth drafod y blaenoriaethau gyda'r sector, ac mi fydd y trafodaethau yma'n parhau dros y misoedd nesaf, a dwi'n ystyried y datganiad yma heddiw yn rhan allweddol o'r broses yma gan ein bod ni am ganolbwyntio ar y materion y gallwn ni fel Llywodraeth wneud y mwyaf o wahaniaeth gyda nhw. Yn dilyn cyfnod bellach o gysylltu â rhanddeiliaid, mi fydd yna gasgliadau a blaenoriaethau yn cael eu rhannu efo chi fel Aelodau Cynulliad cyn gynted ag y bo hynny yn ymarferol.

Yn y cyfamser, dŷn ni'n parhau gyda'n cefnogaeth i'r sector ac yn canolbwyntio ar y llwyddiannau niferus yr ydym wedi'u cyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Er ein bod wedi canolbwyntio'n helaeth hyd yma ar ffilm a theledu, a dramâu teledu yn arbennig o safon uchel yn benodol—ac un gyfres, gydag ail gyfres ohonyn nhw'n ymddangos ar ein sgriniau ni bron wrth i mi siarad—mae hyn yn bendant wedi cael effaith ar economi Cymru ac wedi creu diddordeb newydd yn y diwydiannau creadigol ac yn y diwylliant yng Nghymru.

Yn dilyn cwrdd â chynrychiolwyr o'r cwmni yma yn ddiweddar, mae'n dda gen i hefyd rannu gyda'r Cynulliad yma fy mod i'n edrych ymlaen at gyhoeddi partneriaeth newydd gyda NBCUniversal, a dyma, fel y gwyddoch chi, un o'r prif gwmnïau cyfryngau ac adloniant y byd. Roedd nifer o'u prif gyfarwyddwyr nhw ddim wedi bod ym Mro Morgannwg tan yr wythnosau diwethaf, ond bellach maen nhw'n gwybod beth yw gwerth Dragon Studios a beth fydd y defnydd posib y gallen nhw ei wneud o'r stiwdios yna, o'r tair stiwdio ar hyn o bryd, ac o bosib rhagor o lwyfannau. Ac mae yna wariant o oddeutu £20 miliwn yn debygol o ddod i'r economi leol oherwydd y gweithgaredd yna. Hefyd, ochr yn ochr â hyn, mae'r cwmni am ddod â'i gynllun hyfforddi byd-enwog ar gyfer cynorthwywyr cynhyrchu yma i Gymru. Mae hynna'n golygu ein bod ni'n gallu codi safon ein sector yn ogystal, ac mae hwnna'n newyddion pwysig yn sicr. 

Wrth gwrs, mae'r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llawer mwy na ffilm a theledu, ac mi fydd Cymru Greadigol, fel y bydd hi'n datblygu o fewn y Llywodraeth, yn golygu twf sylweddol o fewn y diwydiant technolegol yng Nghymru, sy'n cyflogi dros 40,000 o bobl ac yn werth rhyw £8.5 biliwn mewn trosiant i economi Cymru. Ac yn arbennig yn hynny, mi garwn i gyfeirio at y diwydiant gemau sydd yn rhan mor allweddol o bwysigrwydd y sector digidol, yn cynnwys Tiny Rebel Games Casnewydd, Sugar Creative yng Nghaerdydd, Prifysgol De Cymru, a'u partner rhyngwladol Potato, sydd wedi llwyddo i gael cyllid o fewn y categori delweddau symudol yn y rhaglen Audience of the Future sy'n cael ei hariannu gan Innovate UK. Bydd y project yn gweithio gydag Aardman, gwasanaeth eiddo deallusol, i gyflawni project cyffrous iawn.

Rydyn ni hefyd yn datblygu strategaeth ar gyfer cerddoriaeth, ac mae hyn yn rhywbeth dŷn ni'n awyddus iawn i'w ddatblygu yn gryf o fewn Cymru Greadigol, ac wrth hynny, dwi'n golygu pob math o gerddoriaeth, ac yn arbennig i fynd ymlaen gyda'r gwaith dŷn ni'n ei wneud ar hyn o bryd i fapio lleoliadau ar lawr gwlad ledled Cymru, lle mae cerddoriaeth fyw, yn enwedig cerddoriaeth boblogaidd, roc a gwerin, yn cael ei llwyfannu. Rydym mewn partneriaeth bwysig yn y fan yma efo PYST, y gwasanaeth dosbarthu digidol a labelu ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf, ac mae'r gwaith yma'n datblygu. Hyd yma, mae'r artistiaid ar y platfform yma wedi cyrraedd dros 5.5 miliwn o ffrydiadau ar Spotify, Apple Music a YouTube, ac mae'r record ar gyfer gwrandawiadau ar gerddoriaeth Gymraeg wedi cael ei thorri gan y datblygiadau yma, efo Alffa, band roc o Gaernarfon rydych chi wedi fy nghlywed i'n sôn amdanyn nhw o'r blaen yn y lle yma, wedi sicrhau dros 2.5 miliwn o ffrydiadau, gan gynnwys nifer fawr yn Ne America. Dwi'n falch hefyd i gyhoeddi heddiw ein bod ni'n ymestyn gwaith PYST. Rydyn ni am gydweithio â nhw i ddefnyddio naw o artistiaid Cymraeg eu hiaith i chwarae ym mhrif ddinasoedd y Deyrnas Unedig. Mi fydd hyn yn golygu sylw a llwyfan i artistiaid Cymraeg ar draws ynysoedd Prydain.

Ac yn olaf, dwi eisiau pwysleisio y bydd hi'n haws i bobl gysylltu â Chymru Greadigol unwaith y bydd y corff wedi'i sefydlu'n glir o fewn y Llywodraeth yn ystod y ddeufis nesaf. Mi fydd hi'n bosib cysylltu â'r diwydiannau creadigol mor effeithiol, dwi'n gobeithio, ag unrhyw gysylltiad â gwasanaethau busnes y Llywodraeth yn gyffredinol. Diolch yn fawr.