Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 30 Ebrill 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bu i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol drafod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir yn ein cyfarfod ar 1 Ebrill.
Ar 18 Ebrill, dros gyfnod y Pasg, ysgrifennodd y Gweinidog at y pwyllgor yn rhoi gwybod inni ei bod yn bwriadu gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig a fyddai'n ceisio cydsyniad ar gyfer cymalau 3 a 5, yn ogystal â chymalau 2 a 4. Mae'r memorandwm diwygiedig hwnnw hefyd yn cael ei drafod yma heddiw. Gosodwyd, fel y'i cyfeiriwyd eisoes, ein hadroddiad gerbron y Cynulliad yr wythnos diwethaf, ar 24 Ebrill.
Dŷn ni'n nodi rhesymau Llywodraeth Cymru dros benderfynu bod gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru ym Mil y Deyrnas Unedig yn briodol. Fodd bynnag, dŷn ni'n dal i gredu bod diffyg eglurder ynghylch pam nad oedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun, a dŷn ni yn gofyn am eglurhad pellach ar y pwynt yma. Wedi'r cwbl, mae materion afonydd a draenio tir wedi cael eu datganoli i Gymru ers 20 mlynedd. Dylai Llywodraeth Cymru, felly, allu cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun heb ddibynnu ar ymdrechion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd heb edrych ar ôl y meysydd hyn mewn 20 mlynedd.
Dŷn ni'n nodi mai barn Llywodraeth Cymru, fel y'i mynegir yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol diwygiedig, yw bod angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cymalau 2, 3, 4 a 5 o'r Bil. Dŷn ni hefyd yn nodi mai barn Llywodraeth y DU yw bod angen cydsyniad mewn perthynas â chymalau 2 i 8 o'r Bil—hynny yw, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ac 8. Dŷn ni, fel pwyllgor, yn cytuno efo barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Credwn fod angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cymalau 2 i 8 i'r graddau eu bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn yn unol ag adran 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dwi'n gwrando ar beth ddywedoch chi ynglŷn â'r memorandwm cydsyniad offeryn statudol—y SICM, y broses honno. Achos o ran cymal 5 o'r Bil yma, dŷn ni'n nodi bod is-adran 6 yn caniatáu'r broses o ddiwygio Mesurau neu Ddeddfau'r Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau yn unig, heb ddod i fan hyn o reidrwydd. Dŷn ni wedi gofyn am eglurhad pellach ynghylch a fyddai rheoliadau o'r fath yn ddarostyngedig i'r broses memorandwm cydsyniad offeryn statudol o dan Reol Sefydlog 30A. Achos eto, wedi'r cwbl, mae yna rôl allweddol gan y Senedd yma, fel deddfwrfa i Gymru i gyd, i graffu ar y deddfu sydd yn mynd ymlaen. Nid mater yn unig rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ydy'r prosesau yma i fod. Diolch yn fawr.