Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 7 Mai 2019.
Wel, safbwynt Llywodraeth Cymru, Llywydd, yw'r un yr wyf i'n ei ailadrodd bob wythnos gerbron y Cynulliad, a dyna'r safbwynt y cytunodd plaid yr Aelod iddo pan gyhoeddwyd 'Diogelu Dyfodol Cymru' gennym ar y cyd. Rydym ni wedi credu erioed bod bargen i'w tharo a fyddai'n diogelu economi Cymru a swyddi Cymru pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Os na ellir taro bargen o'r math hwnnw, yna wrth gwrs—rydym ni wedi dweud dro ar ôl tro y bydd yn rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl i'r bobl. Dyna ein polisi, dyna yw ein polisi o hyd. Dyma'r polisi y cytunodd ei blaid ei hun iddo nid mor bell â hynny yn ôl.