Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 7 Mai 2019.
Diolch. Prif Weinidog, os caf i godi gyda chi y mater o'r dreth gyngor, rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol ein bod ni, y mis hwn, yn nodi 20 mlynedd o Gynulliad Cymru, oherwydd ni fu'r cyfnod hwn o 20 mlynedd yn arbennig o dda i dalwyr y dreth gyngor yng Nghymru. Os edrychwn ni ar y ffigurau, mae cyfraddau treth gyngor band D yng Nghymru wedi cynyddu gan 244 y cant ers 1996. Mae hyn yn llawer uwch na'r gyfradd gyffredinol o chwyddiant yn y cyfnod hwnnw. Prif Weinidog, a ydych chi'n meddwl bod cynnydd sy'n codi'n gyflym i'r dreth gyngor yn bris gwerth ei dalu yng Nghymru i fwynhau manteision Llywodraeth Llafur Cymru yn rhedeg Cynulliad Cymru yn barhaol?