Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 7 Mai 2019.
Diolch yn fawr iawn am hynny, a byddwn yn sicr yn cytuno â chi o ran y pwysigrwydd a roddwn yng Nghymru i'n camp genedlaethol. Gwn y bydd y Dirprwy Weinidog yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â Chwaraeon Cymru a chyda chydweithwyr yn Undeb Rygbi Cymru i drafod materion sy'n ymwneud â chwaraeon ar lawr gwlad yn eu cyfanrwydd, ond yn benodol i gefnogi rygbi ar lawr gwlad, a gofynnaf iddo ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth am ei drafodaethau diweddaraf.