Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 7 Mai 2019.
Rwyf i, fel llawer o bobl eraill, yn pryderu am y modd y caiff pobl ddigartref eu trin yn y wlad hon. Roeddwn yn arswydo o weld Cyngor Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn troi pobl ddigartref allan o barcdir yn Rhodfa'r Amgueddfa. Efallai fod pobl wedi gweld un dyn digartref yn gweiddi gan fod ei eiddo wedi'i daflu i gefn fan, a phwy a ŵyr i ble yr aeth honno. 'Maen nhw wedi cymryd fy myd i, yn y bôn' oedd ei ymateb. Nawr, gwn nad oedd y Gweinidog sy'n gyfrifol am ddigartrefedd yn hapus â'r dull o gosbi a gymerodd ei chyd-aelodau yn y Blaid Lafur ar Gyngor Caerdydd wrth fynd i'r afael â digartrefedd yng nghanol y ddinas. Mae'n debyg ei bod hi, fel minnau, yn meddwl tybed pam yr oeddent fel petai'n cymryd cyngor gan gynghorydd Torïaidd a ddywedodd, 'Tynnwch y pebyll yng nghanol y ddinas i lawr'. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymuno â mi i gondemnio'r camau a gymerwyd gan Gyngor Caerdydd? Ac a gawn ni hefyd ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu arfer dda a thosturiol o ran ymdrin â phobl ddigartref, sydd ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac, wrth gwrs, sy'n cynyddu mewn niferoedd? Byddai gweithredu mewn modd tosturiol wrth fynd i'r afael â digartrefedd hefyd yn golygu diddymu Deddf Crwydradaeth 1824. Oherwydd eu hymreolaeth ychwanegol, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi diddymu'r ddeddfwriaeth hynafol hon, sy'n barnu bod cysgu allan a chardota yn drosedd. Allwn ni ddim aros i San Steffan gael gwared ar ddeddfwriaeth sydd wedi bodoli ers bron 200 o flynyddoedd. Mae hwn yn rheswm arall eto pam mae angen datganoli ein system cyfiawnder troseddol yn llawn, er mwyn inni allu datblygu deddfau ymarferol, tosturiol a seiliedig ar dystiolaeth sy'n mynd i'r afael â'r problemau sydd gennym mewn cymdeithas ac nid yn caniatáu ychwanegu atynt.