Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 7 Mai 2019.
A gaf i eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog addysg yn mynegi eich pryderon? Wrth gwrs, mater i'r awdurdod lleol fydd penderfynu ymhle mae'n lleoli ei ysgolion ac ymhle mae'n buddsoddi yn ei ysgolion o fewn ardal yr awdurdod lleol. Ond rwy'n siŵr eich bod wedi mynegi eich pryderon gyda'r awdurdod lleol o ran unrhyw effaith y gallai hynny ei gael ar y gallu i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddwn yn eich annog chi i sôn am y pryderon hynny gyda'r Gweinidog addysg.