2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 7 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:48, 7 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Roeddwn am ddiolch i Lywodraeth Cymru, ac i'r Gweinidog dros faterion rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg yn benodol, am ysgrifennu llythyr ar fy nghais i yr wythnos diwethaf at Jeremy Hunt, yn gofyn iddo ymyrryd yn achos fy etholwr, Imam Sis. Roedd hwn yn ymyriad a groesewir yn fawr ac rwyf yn wirioneddol ddiolchgar amdano. Efallai fod yr Aelodau yn gwybod bod Imam Sis bellach yn ddifrifol wael. Mae wedi bod ar streic newyn am 142 diwrnod. Mae ei gyflwr yn ddifrifol iawn. A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn y siambr hon am ddatblygiadau diweddar a, hefyd, i ysgrifennu at y Pwyllgor Ewropeaidd er atal artaith gan dynnu sylw at achos Abdullah Öcalan, fel y cyfarwyddwyd i'w wneud gan y lle hwn ar 20 Mawrth?