Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 7 Mai 2019.
Gadewch inni fod yn gwbl sicr, mae hiliaeth bob dydd, hiliaeth strwythurol a throseddau hiliol yn dal i gael effaith ddofn ar fywydau a chanlyniadau bywyd pobl yng Nghymru. Mae hi'n annerbyniol bod llawer o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y wlad hon wedi dod i'r casgliad bod angen iddyn nhw oddef hiliaeth bob dydd. Yn 2017, dangosodd arolwg agweddau cymdeithasol Prydain fod chwarter y bobl wedi cyfaddef eu bod fymryn yn rhagfarnllyd, neu'n rhagfarnllyd iawn, tuag at bobl o hil arall. Mae hiliaeth strwythurol a sefydliadol yn real iawn hefyd. Rydym ni'n gwybod fod hyn yn wir hefyd, oherwydd y bylchau cyflog sy'n bodoli a phrinder pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn swyddi uwch reoli neu arweinyddiaeth.
Yn yr un modd, ceir tystiolaeth sylweddol bod llawer o'n plant a'n pobl ifanc du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu bwlio'n hiliol mewn ysgolion. Bydd rhai ohonom ni wedi clywed y straeon yn uniongyrchol. Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi cael effaith fawr mewn ysgolion. Mae eu staff ymroddedig a phrofiadol yn cynnal gweithdai gyda phlant a phobl ifanc, er mwyn amlygu'r materion a newid agweddau.
Mae Islamoffobia a gwrth-Semitiaeth hefyd yn faterion real iawn yng Nghymru heddiw, gyda grwpiau eithafol yn sbarduno casineb a lledaenu celwydd. Rhaid inni dorchi llewys drachefn yng Nghymru, fel y gallwn ni sicrhau dyfodol mwy heddychlon a mwy cynhwysol, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit. Dyna pam, er enghraifft, ein bod ni'n buddsoddi £2.4 miliwn i ehangu ein rhaglen cydlyniant cymunedol rhanbarthol, er mwyn adnabod a lliniaru tensiynau cymunedol.
Mae sawl her arall yn ein hwynebu, ond nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru drwy ein rhaglen ymgysylltu Cymru gyfan ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sy'n cael ei rhedeg gan Y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, yn ogystal â thrwy Fforwm Hil Cymru. Mae'r rhaglen ymgysylltu wedi rhoi argymhellion inni ar gyfer gweithredu i fynd i'r afael â hiliaeth a'r anghydraddoldebau sy'n deillio o hynny. Fe allwn ni wneud rhywbeth am hyn.
Themâu'r rhaglen yw cynrychioli pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol fel thema allweddol—sydd eisoes yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac i mi'n bersonol. Rwy'n cydnabod bod hyn yn hanfodol i bopeth arall sydd arnom ni eisiau ei wneud. Nid yw hyn yn ymwneud â symboleiddiaeth na chyflawni rhifau. Mae angen cynrychiolaeth amrywiol ar Gymru o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, menywod a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill yn ein prif swyddi rheoli ac yn ein gwleidyddiaeth. Mae angen i ni newid prosesau a diwylliant sefydliadau. Ni fyddwn yn llwyddo nes bod gennym ni leisiau newydd a safbwyntiau newydd yn ein cyrff cyhoeddus Cymreig, yn siambrau'r cynghorau, ystafelloedd bwrdd ac ar y byrddau uchaf, ac wrth gwrs yn y Siambr hon.
O ran yr ail thema, cyflogaeth ac anghydraddoldeb cymdeithasol-economaidd, ceir amrywiaeth rhwng ac o fewn gwahanol leiafrifoedd ethnig, ond mae'r darlun cyffredinol yn ddigon clir: mae pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn wynebu rhwystrau ychwanegol yn gyson ym marchnad lafur Cymru.
Ac yn drydydd, mae'r rhaglen ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi gwneud 13 o argymhellion pellgyrhaeddol ynglŷn â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol mewn ysgolion. Rwyf i a'r Gweinidog Addysg yn benderfynol o fynd ati i roi sylw i bob math o anghydraddoldeb hiliol mewn ysgolion a gwella canlyniadau. Mae hynny'n hanfodol fel bod y genhedlaeth nesaf yn cyflawni hyd ei heithaf ac yn dod yn ddinasyddion Cymru a'r byd sy'n ymwybodol o hil, sy'n hyddysg a moesegol, ac sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd. Rhaid inni fanteisio ar y cyfleoedd pwysig sydd gennym ni drwy'r cwricwlwm newydd, ein canllawiau gwrth-fwlio, a'n buddsoddiad mewn dysgu proffesiynol ar gyfer gweithlu'r ysgolion.
Yn olaf, ond nid yn lleiaf, nid yw mynd i'r afael â digwyddiadau hiliol, troseddau casineb, a hiliaeth strwythurol wedi bod yn fwy o frys nag yw ar hyn o bryd: mae 68 y cant o'r holl droseddau casineb yn cael eu cymell oherwydd hil. Ac ni allwn ni fforddio chwaith anwybyddu effaith eithafiaeth asgell dde yng Nghymru. Efallai fod y niferoedd yn fach, ond gall gweithgareddau grwpiau o'r fath, ar-lein ac yn lleol, gael effaith anghymesur ar ein cymunedau, ac maen nhw'n warth ar ein cymdeithas yn gyffredinol.
Felly, yn olaf, wrth agor y ddadl hon, rhaid inni barhau i adeiladu cymdeithas gref ac amrywiol, lle mae pobl o bob hil, ffydd a lliw yn cael eu gwerthfawrogi am eu cymeriad a'u gweithredoedd. Rydym ni eisiau creu gwlad heddychlon a chytûn lle gall ein plant a chenedlaethau'r dyfodol ffynnu. Mae'n hanfodol bod annog pobl i roi gwybod am droseddau, cynorthwyo dioddefwyr, dwyn tramgwyddwyr i gyfrif, yn parhau i fod yn flaenoriaethau pwysig. Ugain mlynedd ers datganoli, mae'n rhaid inni wneud hyn yn ymrwymiad o'r newydd i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn, ac edrychaf ymlaen at y ddadl hon.