5. Dadl: Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 7 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:30, 7 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae ein dull o weithredu yn hybu gweithio di-dor rhwng partneriaid ar lefel gymunedol, drwy ein clystyrau gofal sylfaenol, gan ddarparu system iechyd a lles sy'n canolbwyntio ar anghenion eu poblogaeth leol. Mae ein clystyrau yn dwyn ynghyd y Bwrdd Iechyd, yr awdurdodau lleol a gwasanaethau yn y gymuned i wella iechyd a lles ar y cyd, nid gwasanaeth sydd wedi'i ganolbwyntio ar y GIG yn unig. Ac mae hynny'n newid sylweddol i'r ffyrdd blaenorol o weithio. Mae'n gofyn bod practisau'n gweithio gyda'i gilydd a chyda'r gymuned ehangach o ddarparwyr gwasanaethau i wneud y defnydd gorau o adnoddau, a darparu'r gofal cydgysylltiedig hwnnw ar sail anghenion pobl a chymunedau.

Rydym ni wedi gweld bod ein syniadau wedi ennyn diddordeb ymhlith eraill. Efallai y bydd o ddiddordeb i Aelodau wybod bod y cynllun 10 mlynedd ar gyfer GIG Lloegr a gyhoeddwyd ym mis Ionawr yn mabwysiadu rhywbeth hynod o debyg i'n dull o weithredu ar sail clwstwr, ond ni welaf unrhyw glod yn cael ei roi am y syniadau gwreiddiol a gymerwyd ac a weithredwyd yma yng Nghymru. Os siaradwch â phobl sy'n darparu gofal sylfaenol ar draws y ffin yn Lloegr, maen nhw'n cydnabod eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru, a dylai hynny fod yn rhan gadarnhaol o ddatganoli wrth inni ddathlu 20 mlynedd—i ddathlu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ac yn ei arwain yn hyn o beth, i edrych ar le mae rhannau eraill o'r DU yn manteisio arno, ac, yn yr un modd, i fod â meddwl agored ynghylch gwelliannau y gallem ni eu gwneud yma, drwy ddysgu oddi wrth rannau eraill o'r DU.

Felly, mae gwaith clwstwr yn parhau i ddatblygu yma yng Nghymru. Pan drafododd y Cynulliad hwn glystyrau ym mis Ionawr y llynedd, eglurais fod ein dull o weithredu yn gofalu nad oedd yn rhy gyfarwyddol. Felly, seilir ein model ni yng Nghymru ar arferion arloesol, wedi'u cynllunio'n lleol ac wedi'u cytuno'n genedlaethol gan yr holl randdeiliaid ar ein bwrdd gofal sylfaenol, gan ddwyn ynghyd pobl o fferylliaeth, pobl o gefndiroedd gofal cymdeithasol ac, wrth gwrs, pobl o faes ymarfer meddygol hefyd. A'r ystod honno o randdeiliaid sydd wedi cytuno ar ffordd newydd ymlaen. Felly, rydym ni'n defnyddio ein rhaglen o ddiwygio contractau gofal sylfaenol i gefnogi fferyllwyr cymunedol i fod yn aelodau o glystyrau, ac i wasanaethau meddygol mwy cyffredinol gael eu cynllunio a'u darparu ar lefel clwstwr. Ac edrychaf ymlaen at ddarparu adroddiad i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd o ran diwygio contractau'n ehangach ym maes gofal sylfaenol yn ystod yr Hydref.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu £10 miliwn y flwyddyn yn uniongyrchol i glystyrau i wneud eu dewisiadau eu hunain ynghylch ble i fuddsoddi o ran eu hanghenion gofal iechyd lleol. Disgwyliaf yn y dyfodol y bydd mwy o benderfyniadau'n cael eu gwneud ar lefel y clwstwr. Rwyf wedi egluro sawl tro fy mod yn disgwyl graddfa a chyflymder ym mhob rhan o Gymru, o ran mabwysiadu ac addasu dull trawsnewidiol ar gyfer gofal sylfaenol. Er mwyn helpu i barhau i ysgogi hyn, byddaf yn gosod cerrig milltir cyflawni cenedlaethol ar gyfer trawsnewid a gwella gofal iechyd lleol, er mwyn dwyn i gyfrif yr arweinyddiaeth o fewn ein gwahanol bartneriaid iechyd.

Ym mis Mawrth, lansiais safonau cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gallu defnyddio gwasanaethau meddygol cyffredinol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn bryder allweddol o Arolwg Cenedlaethol Cymru o ran gofal sylfaenol. Ymwelais â chanolfan iechyd Ffynnon Taf pan lansiais y safonau hynny, ac yr oeddwn yn falch o weld drosof fy hun y defnydd ardderchog o'u gwasanaethau i gleifion. Mae wedi bod yn cynnal rhannau helaeth o'r model gofal sylfaenol ers sawl blwyddyn, ac mae'r amser aros ar gyfer apwyntiad arferol yn y practis hwnnw yn un neu ddau ddiwrnod. Dyna'n huchelgais sydd i'w gwireddu ar draws y wlad.  

Ym mis Mawrth cyhoeddais hefyd fod cofrestr locwm wedi'i chreu ar gyfer Cymru gyfan. Mae hyn yn darparu ffordd, y mae ei hangen yn ddirfawr, i reoli a deall trefniadau ar gyfer meddygon teulu locwm—un o brif bryderon partneriaid ym maes ymarfer cyffredinol. Ac rwy'n falch o allu cadarnhau, yn barod, ers y lansiad, fod gennym bellach 508 o feddygon locwm yn rhan o'r gofrestr hon, a mwy yn mynegi eu diddordeb mewn cymryd rhan. Rydym ni newydd lansio cyfnod fferylliaeth yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' a byddwn yn ymestyn yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd er mwyn helpu i gyflawni ein hymrwymiad parhaus i gefnogi gwaith tîm amlbroffesiynol o fewn ac ar gyfer ein cymunedau. Yn ganolog i'n dull o weithredu yng Nghymru yw'r egwyddor o wasanaethau sydd yn cael eu cynllunio a'u darparu dros y cyfnod 24/7. Yn naturiol, mae hynny'n cynnwys trawsnewid gwasanaethau y tu allan i oriau a chyflwyno'r gwasanaeth 111, a gwn fod yr adran cyfrifon cyhoeddus wedi cymryd diddordeb yn y rhan honno o'n gwasanaethau—eto, cam sylweddol ymlaen ac yn wahanol i'r ffordd yr oedd rhai gwasanaethau wedi eu darparu yn y gorffennol.

Mae enghreifftiau eraill o'n blaenoriaethau yn y rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol yn cynnwys system genedlaethol i nodi pobl sydd mewn mwy o berygl o angen gofal heb ei drefnu; system ar gyfer monitro pwysau cynyddol ar ein gwasanaethau; adolygiad gan gymheiriaid ar gyfer gofal brys o safbwynt gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned; templed newydd ar gyfer cynlluniau clwstwr i symud ymlaen; cefnogaeth genedlaethol ar gyfer sgyrsiau â'n cyhoedd ynghylch sut y mae gwasanaethau lleol yn newid ac, yn hollbwysig, pam. Byddwn yn gwerthuso ac yn adrodd yn gyhoeddus ar effaith y model gofal sylfaenol newydd ym mhob rhan o Gymru. Y nod yw cael gwell gwaith i'n staff i'w gyflawni ac, yn hollbwysig, gwell gwasanaeth gyda, ac ar gyfer y cyhoedd. Disgwylir i'r bwrdd gofal sylfaenol cenedlaethol gadarnhau cynlluniau gweithredu manwl sy'n sail i'n dull o weithredu yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae hynny yn golygu, ynghyd â'r arweiniad cenedlaethol hwnnw, fod arweinyddiaeth leol ac arloesi'n hanfodol ar gyfer gweddnewid. Mae mwyfwy o bractisau cyffredinol yn datblygu timau amlbroffesiynol, gan gyflwyno systemau i gyfeirio pobl at wasanaethau lleol a blaenoriaethu pobl ag anghenion clinigol, fel eu bod yn gweld y person cywir ar yr adeg gywir, y tro cyntaf. Mae mwyfwy o feddygfeydd yn cofleidio swyddogaeth gwasanaethau lles anghlinigol. Er enghraifft, mae practis cyffredinol yn Wrecsam yn cydweithio â gwasanaethau cymunedol ar gyfer pobl sy'n ddigartref, ac rwyf wedi bod i bractis meddyg teulu yng Nghaerdydd sydd wedi datblygu gardd gymunedol—budd dwbl yno wrth wella undod cymunedol a helpu pobl i fynd i'r afael â phroblemau megis unigrwydd, unigedd, pryder a straen. Ac fel y clywsom ni yn gynharach yn ystod cwestiynau, mae llawer o weithgarwch yn digwydd mewn fferylliaeth gymunedol. Mae fferyllfeydd cymunedol bellach yn cynnig triniaeth ar gyfer amryw o anhwylderau cyffredin heb fod angen presgripsiwn—eto, mae arloesi'n digwydd yma yng Nghymru yn gyntaf. Mae fferyllwyr yn parhau i hyfforddi ar gyfer rhoi presgripsiwn am feddyginiaeth yn ogystal â gweinyddu a chynghori.

Mae cronfa trawsnewid 'Cymru Iachach' a grëwyd gennyf, wrth gwrs, yn treialu modelau gofal a chymorth newydd, ar raddfa fwy. Er enghraifft, mae clwstwr Cwm Tawe yn gwella iechyd a lles y boblogaeth drwy gryfhau hunanofal a meithrin cydnerthu cymunedol. Ar draws ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, mae timau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y gymuned yn trawsnewid i fod yn gynllun rhyddhau o'r ysbyty 24/7. Mae pobl yn gallu cyrraedd adref yn gynt gyda'r pecyn gofal cywir ac yn y lle iawn iddyn nhw. Mae gogledd Cymru yn gweithredu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau cymunedol cydgysylltiedig sydd wedi'u cynllunio ar sail yr egwyddor a drafodwyd gennym yn gynharach o ran yr hyn sy'n bwysig i, ac ar gyfer y dinesydd, a ddylai fod yn ganolog i'n cynllun i ailgynllunio ein gwasanaethau.

Nawr, mae amser yn brin, felly ni allaf nodi pob cam yr ydym yn ei gymryd i drawsnewid gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r dull o weithredu yr wyf wedi'i nodi yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth 'Cymru Iachach' a'r dyfodol hirdymor ar gyfer canlyniadau iechyd, gofal a lles i'r bobl yr ydym i gyd yn eu cynrychioli. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau at y ddadl heddiw.