Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 7 Mai 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Roedd hi'n ddiddorol clywed amrywiaeth o safbwyntiau heddiw ynghylch y ffordd yr ydym ni eisiau gweld gwelliant yn y gwasanaethau iechyd a gofal yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae llawer o hynny'n ymwneud â sefydlogrwydd craidd meddygon teulu, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol.
Mae'n bleser gennyf ail-gadarnhau bod 96 y cant o leoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru wedi'u llenwi yn y rownd gyntaf. Mae hynny'n cyferbynnu’n llwyr â'r sefyllfa yn Lloegr, lle cafodd 80 y cant o'r lleoedd eu llenwi. Felly mae ein cyfradd lenwi ni yn llawer gwell o'i chymharu â'r sefyllfa yn Lloegr. Gyda dwy rownd i ddod, rwyf hefyd wedi cytuno i roi mwy o hyblygrwydd i lenwi mwy o leoedd nag a gynlluniwyd i fanteisio ar y capasiti sydd gennym ni yn ein system. Ac, fel rwyf wedi'i gyhoeddi'n flaenorol, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn adolygu'r angen a'r niferoedd ar gyfer lleoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, mae'n bosib y bydd lleoedd hyfforddi meddygon teulu yn ehangu'n barhaol, yn seiliedig ar dystiolaeth.
Trof at rai o'r sylwadau a wnaeth Darren Millar, ac rwyf yn fodlon ailgadarnhau ei fod, o ran indemniad, yn gwbl anghywir. Nid yw ei ganmoliaeth o gytundeb indemniad Lloegr yn dal dŵr, ac edrychaf ymlaen at ddod i gasgliad ynglŷn â'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol i feddygon teulu. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau mewn ewyllys da rhwng partneriaid, a chredaf fod gwell cynnig ar y bwrdd yma yng Nghymru na'r un a dderbyniwyd yn Lloegr. Mae'r holl bartneriaid yn y trafodaethau hynny—y GIG, Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru—yn awyddus i gwblhau'r trafodaethau yn y dyfodol agos, er mwyn i'r meddygon teulu eu hunain weld y manylion, ond yn hanfodol, bydd yn ein helpu ni i fuddsoddi rhagor mewn gofal iechyd lleol.
Ac o ran rhai o'r sylwadau mwy cyflawn a wnaed yn y ddadl, rydych chi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, ac roedd sylw Dai Lloyd ei fod wedi gweithio mewn practis cyffredinol am dros 30 mlynedd yn newydd i mi. [Chwerthin.] Ond o ran y pwynt ehangach a wnaed mewn cyfraniadau eraill am y tîm ehangach mewn gofal iechyd lleol, cofiaf yn blentyn imi fynd i'r practis cyffredinol a'r meddyg yn gwneud bron popeth, o dynnu gwaed i ystod eang o fân bethau na fyddech yn disgwyl i feddyg teulu eu gwneud eu hunain heddiw. A dyna'r pwynt: gweld y cynnydd hwnnw'n parhau, ond yn parhau'n fwy cyson ac yn gyflymach. Ac roeddwn yn falch iawn o glywed Dai Lloyd yn cydnabod bod buddsoddi yn yr ystâd gofal iechyd leol, ac mae'n broblem wirioneddol o ran ansawdd y gofal, ond hefyd o ran sicrhau bod pobl yn dymuno parhau i ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd lleol hefyd.
Wrth gwrs, o ran gofal cymdeithasol, mae Dai Lloyd yn gwybod fy mod i'n cadeirio'r grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal. Ond roedd un o'r pwyntiau a wnaeth Dai, Dawn, Hefin ac Alun yn ymwneud â chael y tîm ehangach hwnnw o bobl—yn arbennig sylw Dawn Bowden ynglŷn â'r ffaith bod angen i bethau newid ynghynt. A dyna yw'r hyn yr wyf i'n benderfynol o'i wneud. Nid ein bod yn cytuno bod ffordd well o redeg y gwasanaeth yn unig, ond gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd, fel bod pobl yn gweld nad yw'r dyfodol yn rhywle arall yng Nghymru, ond ei fod yn wasanaeth y maen nhw'n ei gael sydd wedi newid ac er gwell, oherwydd rwyf innau hefyd, yn rhannu'r rhwystredigaeth wirioneddol o ran pa mor gyflym yr ydym ni'n llwyddo i newid y gwasanaeth iechyd.
Ni yw rhan o hynny a dweud y gwir, oherwydd o fod yn wleidyddion lleol, rydym ni bob amser o dan bwysau i gefnogi'r achos dros gadw'r hyn sydd gennym ni, yn hytrach na gweld beth y gallem ni, ac y dylem ni ei gael pe bai gennym ni'r arferion gorau mewn gwirionedd yn ac ar gyfer ein cymunedau. Ac mae hynny'n aml yn golygu gwella'r hyn sydd gennym ni a'i newid. A dyna'r pwynt a wnaeth Alun Davies hefyd, oherwydd mae pobl sydd wedi eu grymuso ac sydd â'r wybodaeth ddigonol yn tueddu i wneud gwahanol ddewisiadau, a byddai hynny'n mynd â'n gwasanaethau i gyfeiriad gwahanol.