Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 8 Mai 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am gwestiwn hynod o bwysig? I lawer o bobl, gwasanaethau bysiau, a thrafnidiaeth yn gyffredinol, yw'r her fwyaf y maent yn ei hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau, at gyfleoedd hamdden, ac yn bwysicaf oll mewn sawl ardal, at waith. Ac rwyf wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen fod rhai rhannau o Gymru lle na all cymaint ag 20 y cant o bobl fforddio neu sicrhau ffordd o fynd i'w cyfweliadau am swyddi, heb sôn am fynd i'r gwaith. Maent wedi eu cloi allan o'r gweithle i bob pwrpas. Ac felly, mae'r diwygiadau radical rydym yn eu hargymell i wasanaethau bysiau lleol yn gwbl hanfodol. Rydym wedi cyhoeddi'r Papur Gwyn. Gwn y cafwyd ymateb ardderchog i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 27 Mawrth. A buaswn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod na ellir canolbwyntio'n unig ar ardaloedd trefol lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw, ac y dylid canolbwyntio lawn cymaint ar atebion ar gyfer ardaloedd mwy gwledig. Ac rwy'n falch ein bod wedi cyhoeddi pedwar cynllun peilot yn ddiweddar, gan gynnwys un yng ngorllewin Cymru, i archwilio'r potensial ar gyfer defnyddio trafnidiaeth seiliedig ar alw—fel y mae rhai wedi'i ddweud, 'ubereiddio' gwasanaethau bysiau, ond gyda chwistrelliad o enaid. A chredaf mai'r hyn a fydd yn bwysig yn y cynlluniau peilot hyn yw y bydd modd inni brofi ffordd newydd o ateb galw teithwyr, ond ffordd sydd yr un mor fforddiadwy, ac o bosibl, hyd yn oed yn llai costus i'r trethdalwr o ran cymorthdaliadau na ffurfiau confensiynol ar wasanaethau bysiau a gwasanaethau bysiau rheolaidd.
Nawr, wrth i'r cynllun peilot hwn yng ngorllewin Cymru a'r tri chynllun peilot arall fynd rhagddynt, rydym yn gweithredu cyfres o wasanaethau TrawsCymru, ac rwy’n falch o ddweud ein bod wedi dechrau darparu llwybr TrawsCymru newydd ddoe yng ngorllewin Cymru, i gysylltu Abergwaun â Thyddewi, Hwlffordd, ar lwybr T11. Ond rwy'n awyddus i sicrhau, drwy ddiwygiadau, drwy ddefnyddio'r cymhorthdal cyhoeddus yn well, ein bod yn gweld mwy o wasanaethau bysiau yn ymateb i ofynion teithwyr ym mhob cymuned—rhai trefol a rhai gwledig.