Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 8 Mai 2019.
Wel, rydym yn sicr yn adolygu gwaith y tasglu. Cyhoeddodd fy nghyd-Aelod Alun Davies gynllun cyflawni cyn y Nadolig sy'n cyfleu'r amrywiaeth o weithgareddau sy'n mynd rhagddynt ar draws y Llywodraeth yn ardal tasglu'r Cymoedd. O ganlyniad i hynny, mae llawer o waith wedi bod yn mynd rhagddo ac mae cynnydd yn cael ei wneud. Felly, er enghraifft, mae'r gwaith o ddatblygu'r metro wedi cael ei lywio i raddau helaeth gan y ganolfan strategol yng Nghaerffili, er enghraifft. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn awr gyda'r cyngor ar greu canolfan drafnidiaeth integredig yno na fyddai wedi digwydd pe na bai tasglu'r Cymoedd wedi cael ei greu. Fel y dywedais, rydym yn ceisio mabwysiadu ymagwedd fwy thematig. O ganlyniad i hynny, mae'n ddigon posibl y byddwn yn ceisio ail-lunio rhywfaint o aelodaeth tasglu'r Cymoedd er mwyn sicrhau bod y sgiliau iawn gennym yno i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.