Trafnidiaeth yng Nghanol Ardaloedd Trefol

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:16, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am hynny. Weinidog, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, cyfeiriodd y Prif Weinidog at sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â therfyn cyflymder diofyn posibl o 20 mya mewn ardaloedd trefol yng Nghymru, a chredaf y byddai hynny'n darparu llawer o fanteision. A allech roi rhagor o fanylion inni am y trefniant newydd hwnnw, Weinidog, o ran aelodaeth a chadeiryddiaeth y grŵp gorchwyl a gorffen, ei gylch gwaith a'r amserlen ar gyfer ei waith a'i drefniadau adrodd? Os nad yw'r holl fanylion gennych wrth law heddiw, buaswn yn gwerthfawrogi pe gallech ysgrifennu ataf gyda'r manylion hynny.