Gwelliannau Adran 5 a 6 yr A465

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:21, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod yn cefnogi'r cynllun yn llwyr. Fel y dywedaf, rwyf eisoes wedi cymeradwyo'r gorchmynion drafft. Os bydd popeth yn iawn, bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yn 2020 a bydd wedi'i gwblhau erbyn 2023, a byddwn yn ceisio manteisio ar bob budd a allwn o'r buddsoddiad pwysig hwn o oddeutu £900 miliwn i gymunedau Blaenau'r Cymoedd.