Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 8 Mai 2019.
Trown at y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar e-chwaraeon. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 24, neb yn ymatal, a 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.