Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 8 Mai 2019.
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn â llosgi gwastraff ar ôl Brexit, gan nad yw hyn wedi codi yn benodol yn y trafodaethau Brexit. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal safonau amgylcheddol ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac er nad wyf wedi cael trafodaethau penodol ynglŷn â llosgi gwastraff, rydym wedi gwneud paratoadau er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth, gan gynnwys y rheoliadau perthnasol, yn parhau ar waith ar ôl Brexit.