Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 8 Mai 2019.
Buaswn yn dweud bod y naratif ehangach ynglŷn â phobl yn peidio â pharchu'r refferendwm yn rhan o naratif ehangach ynglŷn â bradychu sy'n peri cryn ofid ac yn niweidiol iawn. Buaswn yn dweud wrth yr Aelod nad yw bwydo'r naratif hwnnw yn adlewyrchu'n dda ar unrhyw un ohonom yn y lle hwn. Rydym mewn cyfnod lle dylai fod yn rhan o rôl gwleidyddion i beidio ag annog hynny; yn hytrach, dylent gydnabod yr hyn rydym wedi methu ei gydnabod ac a arweiniodd at refferendwm 2016, sef bod y penderfyniadau hyn yn rhai anodd a bod iddynt ganlyniadau go iawn ym mywydau unigolion. Mae gwleidyddion yn y lle hwn ac yn San Steffan yn ymgodymu â sut i gysoni refferendwm 2016 â set o gysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd sy'n gwneud y lleiaf o niwed i bobl Cymru a'r DU, a buaswn yn ei annog i gymryd rhan yn y ddadl honno yn hytrach na cheisio sgorio pwyntiau gwleidyddol.